Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn nodi bod angen newidiadau sylweddol ar system fwyd a defnydd tir Cymru i gyflawni sero net

25 Gorffennaf 2023

Llun o saith buwch ar ochr bryn yng Nghymru.
Daw'r adroddiad i'r casgliad bod rhaid i unrhyw newidiadau i'r polisi amaethyddol hefyd sicrhau bod ffermwyr da byw yr effeithir arnyn nhw yn derbyn cymorth.

Mae angen trafodaeth frys ac agored ynghylch system fwyd Cymru er mwyn cyflawni sero net, yn ôl academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cyhoeddi ei hymateb i gwestiwn her cyntaf Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, sef 'Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?'. Mae'r adroddiad yn trafod y dystiolaeth a'r heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol. Yn ôl y rhagolygon, hon fydd ffynhonnell fwyaf allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2035, wrth i sectorau eraill ddatgarboneiddio'n gyflymach.

Ar hyn o bryd, mae allyriadau methan uniongyrchol o dda byw yn cyfrif am 61% o allyriadau amaethyddol yng Nghymru, ac mae trin tail yn cyfrannu 14% yn ychwanegol o allyriadau.

Mae'r papur yn dadlau y gallai Cymru wneud iawn am yr amser a gollwyd wrth geisio cyflawni sero net, a hynny drwy addasu arferion ffermio a defnydd tir yn sylweddol.

Yn ôl y dystiolaeth, bydd angen defnyddio rhywfaint o dir amaethyddol mewn ffyrdd sy'n ychwanegu at ein dalfeydd carbon, megis cynyddu ein coetiroedd, ein coedwigaeth a’n mawnogydd. Bydd lleihau allyriadau amaethyddol hefyd yn gofyn am ostyngiad yn nifer y da byw.

Bydd y Bil Amaethyddiaeth newydd yn fecanwaith allweddol i Lywodraeth Cymru lunio arferion rheoli tir ond, yn ôl yr adroddiad, dylid canolbwyntio mwy ar leihau allyriadau yn gyffredinol. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod rhaid i unrhyw newidiadau i'r polisi amaethyddol hefyd sicrhau bod ffermwyr da byw yr effeithir arnyn nhw yn derbyn cymorth.

Dywedodd Dr Helen Tilley, Uwch Gymrawd Ymchwil WCPP, “Mae'n amlwg o'n gwaith ar y pwnc hwn fod nifer fawr o rwystrau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac yn gysylltiedig wrth drafod cynaliadwyedd defnydd tir, ffermio a systemau bwyd Cymru. Mae'r dystiolaeth hefyd yn ein helpu i nodi rhai cyfleoedd pwysig ar gyfer newid.

“Rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd hyn os ydym am fynd i'r afael â'r hyn a allai fod yr her fwyaf i ni eto er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i lunwyr polisïau, y sector amaethyddiaeth a sectorau eraill gydweithio i ddod o hyd i atebion ymarferol, gan gydnabod yr angen i ddarparu cymorth i ffermwyr a chymunedau Cymru.”

Dr Helen Tilley Senior Research Fellow, Wales Centre for Public Policy

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu WCPP, sy'n rhan o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, i ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i lywio gwaith Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru.

Dywedodd Jane Davidson, cyn Weinidog yr Amgylchedd, sy'n cadeirio Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru: “Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n helpu i ddatblygu ein gwaith.

“Her y Grŵp hwn, sydd â lles cenedlaethau'r dyfodol wrth ei wraidd, yw nodi ffyrdd o gyflymu ein cynnydd tuag at sero net, gan sicrhau bod hyn yn diogelu cymunedau, a’i fod yn gyfiawn ac yn gadarnhaol o ran byd natur.

“Mae'r adroddiad hwn yn datgelu rhai tueddiadau pryderus ynghylch system fwyd Cymru. Mae’n galonogol ei fod hefyd yn nodi mesurau i helpu i fynd i'r afael ag allyriadau a llygredd a fydd yn deillio ar well bioamrywiaeth ac iechyd i bobl.”

Jane Davidson Cyn Weinidog yr Amgylchedd

“Er bod modd trafod ymyriadau ynghylch mawndiroedd, coedwigaeth a'n harfordir, rhaid i ni beidio â chilio oddi wrth bwysigrwydd ffermio yng Nghymru.

“Yn debyg i lawer o sectorau, mae ffermwyr Cymru mewn sefyllfa economaidd anodd yn dilyn Brexit a'r gwrthdaro yn Wcráin. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â her hyd yn oed fwy o faint, sef y newid yn yr hinsawdd.”

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma.

Rhannu’r stori hon