Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Ymchwil CLlC yn boblogaidd gydag academyddion

3 Gorffennaf 2023

Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ei chynhadledd ymchwil flynyddol gyntaf yn yr Ardd Gudd ym Mharc Bute Caerdydd.

Ar 9 Mehefin daeth cydweithwyr ac ymchwilwyr cydweithredol o'r tu allan i'r ganolfan ynghyd i fwynhau pymtheg o gyflwyniadau, gyda phapurau'n rhychwantu themâu ymchwil amrywiol y ganolfan a meysydd o ddiddordeb. Roedd pynciau penodol yn cynnwys cwotâu rhywedd ym mhroses ddiwygio'r Senedd, cronni pwerau trethu datganoledig, cyfraith polisi'r môr a'r Arctig, diwygio gofal cymdeithasol, paraddiplomyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol Cymru, ffeministiaeth mewn cymdeithas sifil, a hanes cenedlaetholdeb Cymru.

Pwrpas y gynhadledd oedd datblygu prosiectau ymchwil unigol ymhellach drwy rannu adborth gan gymheiriaid ar gyflwyniadau, a hefyd cynnal diwylliant ymchwil ffyniannus y ganolfan ac ethos y tîm. Disgwylir i ragor o ddigwyddiadau academaidd, seminarau a chynadleddau ddilyn yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Rhannu’r stori hon