Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd cyfrifoldeb dros ein geiriau ar y cyfryngau cymdeithasol

13 Gorffennaf 2023

Athronydd o Gaerdydd yn archwilio cwestiwn ein hoes yn sgîl cymrodoriaeth fawreddog

Bydd yr Athro Alessandra Tanesini yn ymgymryd â Chymrodoriaeth Ymchwil Fawr Cymdeithas Mind 2023-24.

Yn ei blwyddyn yn bod yn gymrawd, bydd yr athronydd yn canolbwyntio ar waith newydd o bwys, gan rannu canfyddiadau ei phrosiect yng nghynhadledd athroniaeth fwyaf y DU.

Bydd yn canolbwyntio ei hymchwil ar sut y gallwn, gyda'n gilydd, gymryd cyfrifoldeb dros ein geiriau ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddi monograff newydd, dan y teitl dros dro Commitments Online: Taking Responsibility for One’s Words on Social Media.

Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn adeiladu ar waith blaenorol Tanesini ynghylch y cyfryngau cymdeithasol, gweithredoedd o ddatgan geiriau, ac emosiynau (2022), polareiddio a dadleuon cyhoeddus (2021 -2021), distawrwydd yn weithred o ddatgan geiriau (2018) haeriadau ac atal pobl rhag siarad (2019).

Mae hi’n esbonio:

“Y bwriad y tu ôl i’r ymchwil yw cynnig diagnosis ar gyfer rhai o'r problemau cyfathrebu ar-lein hynny sydd wedi eu nodi’n gyson, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n rhwystro sgyrsiau “epistemig, o ddifrif”. Mae hyn yn seiliedig ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n defnyddio testun yn sail iddynt megis Mastodon, Twitter, WhatsApp, LinkedIn a Facebook.

“Bydd yn ystyried sut mae rhwydweithiau helaeth o ddefnyddwyr yn creu cawdel o gyfathrebu lle mae'r holl gyfranogwyr yn cystadlu am sylw, lle mae’n rhwydd cyfathrebu ar raddfa a lle mae atebolrwydd yn beth llawer anoddach. Y bwriad yw ystyried goblygiadau canfod anonestrwydd, risgiau uwch o gamddealltwriaeth a'r posibilrwydd o golli tir cyffredin o ran sgwrsio.”

Mae cymrodyr Mind yn rhannu eu hymchwil mewn darlith yn Sesiwn ar y Cyd Cymdeithas Aristotlys a Chymdeithas Mind a hynny’n rhan o'r gymrodoriaeth.

Rhannu’r stori hon