Ewch i’r prif gynnwys

Stampiau newydd yn dathlu bywyd gwyllt afonydd y DU

13 Gorffennaf 2023

Stamps featuring river wildlife -Stampiau sy'n cynnwys bywyd gwyllt yr afon

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi helpu'r post brenhinol i ddatblygu set o 10 stamp sy'n dathlu'r amrywiaeth o adar, mamaliaid, pryfed a physgod sy'n byw yn afonydd a nentydd y DU.

Datblygwyd y stampiau mewn cydweithrediad â'r Athro Steve Ormerod o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd. Maent yn cynnwys afancod, eog yr Iwerydd, glas y dorlan, mursen hardd, llygoden bengron y dŵr, wagen lwyd, cleren fai cyffredin, dyfrgi, brithyll brown a bronwen y dŵr.

Dywedodd David Gold, Cyfarwyddwr Materion Allanol a Pholisi y Post Brenhinol: “Mae afonydd a glannau afonydd y DU yn hardd i edrych arnynt, ond faint ohonom sy'n cymryd yr amser i ystyried sut y daethant i fodoli yn y lle cyntaf? Yn y stampiau hyn rydym yn dathlu ein hamgylchedd naturiol unigryw gan ganolbwyntio'n gryf ar yr amrywiaeth gyfoethog o greaduriaid sy'n byw yn ein hafonydd ac wrth eu hymyl.”

O Orffennaf 13, bydd y stampiau ar gael i'w prynu ar-lein neu mewn un o’r 7,000 o ganghennau Swyddfa'r Post ledled y DU.

“Mae bywyd gwyllt dŵr croyw o dan fygythiad ledled y byd oherwydd llygredd a phwysau eraill - felly mae'r stampiau hyn yn ein hatgoffa'n amserol o'r ystod arbennig ac amrywiol o anifeiliaid sydd wedi’u haddasu ac sy’n gofyn bod ein nentydd a’n hafonydd ni mewn cyflwr iach.

“Mae'r rhywogaethau eiconig sy'n ymddangos ar y stampiau hyn dan fygythiad os nad ydym yn cynnal a chadw ein hafonydd. Nod ein hymchwil yw gwarchod afonydd y DU — a'r rhywogaethau Prydeinig poblogaidd hyn — ar gyfer y dyfodol.

“Mae hon yn ffordd mor wych o ddathlu afonydd y DU ac i anfon neges — yn llythrennol — ar pam eu bod nhw’n bwysig,” meddai'r Athro Steve Ormerod.

Rhannu’r stori hon