Ewch i’r prif gynnwys

Dod yn fentor ffiseg

11 Gorffennaf 2023

Physics Mentoring Project

Ysbrydoli plant ysgol i syrthio mewn cariad â ffiseg

Mae'r Prosiect Mentora Ffiseg wedi ei gwobrwyo am ei waith yn hyfforddi israddedigion ac ôl-raddedigion a'u gosod mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli dysgwyr TGAU i astudio Ffiseg fel cwrs ol-16. Ers 2019 mae nhw'n wedi cydweithio gyda 32% o'r holl ysgolion uwchradd yng Nghymru, a nifer ohonynt yn flynyddol.

Mae'r prosiect yn rhedeg ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru. Mae'n datblygu ar sylfaen llwyddiant arobryn y Prosiect Mentora ITM.

Israddedigion ac ôl-raddedigion sy'n astudio yn un nhw'n prifysgolion partner yw eu mentoriaid i gyd. Does dim angen i chi astudio gradd Ffiseg na chwaith hyd yn oed wedi astudio Lefel A Ffiseg - rydym yn derbyn mentoriaid gydag unrhyw gymwysterau ol-16 yn y maes wyddoniaeth ffisegol!

Dywedodd mentor 2021-22: "Byddwn i’n argymell y prosiect hwn yn frwd; mae'n gyfle gwych! Mae cyfle i feithrin medrau gwerthfawr, ennill cymhwyster a chael cyflog am wneud gwaith sy’n rhoi boddhad a hwyl fel ei gilydd. Rwy’n fodlon iawn ar y profiad, roedd yn wych".

Mentoriaid i gyd yn derbyn gwiriad GDG yn ogystal â hyfforddiant o safon uchel sy'n cynnwys theori mentora, y Dull Addysgu'r Cyfalaf Gwyddoniaeth, cynllunio gwersi a chynhwysiant. Ar ôl hyfforddi, cafwyd y mentoriaid eu gosod i weithio gydag ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol ac uwcholeuo'r sgiliau trosglwyddadwy a gynigwyd gan gymhwyster ffiseg ol-16 trwy fentora wyneb yn wyneb, rhithiol a chyfunol.

Dywedodd disgybl ysgol 2021-22: "Mae fy marn gyffredinol am bethau wedi newid ac mae ffiseg wastad mewn cof wrth edrych ar bethau. 'Sut mae hynny wedi’i greu?'".

Mae ein mentoriaid yn defnyddio'r themâu wythnosol i arddangos i ddysgwyr agweddau gwahanol o ffiseg tu allan i'r cwricwlwm a does dim disgwyl i diwtora ar wybodaeth bynciol TGAU Ffiseg.

Gallai cynnwys buddion arall fel:

  • Bwrsari arian parod o £200 am bob grŵp mentora
    • Costau teithio a llety wedi ad-dalu
  • Cyfle am hyfforddiant dwys a chyfoethog
  • Cyfle i gwblhau cymhwyster Lefel 4 wedi ei achredu gan Agored Cymru am ddim, i Fentoriaid Ffiseg yn unig
  • Cymwysterau a datblygu sgiliau cyflogadwyedd i ychwanegu at eich CV
  • Bodlonrwydd personol o ysbrydoli cenhedlaeth o wyddonwyr ifanc!

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2023-2024! Cewch ragor o wybodaeth yma

Y dyddiad cau i gyflwyno eich cais yw 23:59 ar Ddydd Sul y 6ed o Awst 2023.

Rhannu’r stori hon