Ewch i’r prif gynnwys

Ymgyrchydd gwrth-hiliaeth yn ennill Gwobr Cyflawniad Oes

3 Gorffennaf 2023

Dwy fenyw yn edrych ar y camera
Usha Ladwa-Thomas (R) with Nashima Begum, Llywodraeth Cymru

Mae'r ymgyrchydd gwrth-hiliaeth Usha Ladwa-Thomas, Cymrawd Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Gyflawni Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru.

A hithau’n ymgynghorydd allweddol a fu ynghlwm wrth Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a hefyd yn ymgynghorydd ac yn hyfforddwraig lawrydd, mae Usha wedi ymuno â SBARC, sef parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd sy'n datblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol drwy weithgarwch ymchwil ar y cyd.

“Drwy weithio gyda SBARC, rwy'n teimlo fy mod ond newydd ddechrau ar fy ail yrfa o ran gwneud gwahaniaeth,” meddai Usha. “Rwy wedi bod yn ymwneud yn helaeth â llunio Cynllun Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru i Gymru ac mae creu ar y cyd a phrofiadau bywyd wrth wraidd y gwaith”.

“Rwy'n defnyddio'r profiad hwnnw i gefnogi SBARC i fod yn gymuned wrth-hiliol. Ac a hithau’n aelod o Grŵp Cynghori Strategol SBARC, bydda i’n rhoi cyngor annibynnol, heriau a chymorth arwain i'r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SBARC.  Mae'r gefnogaeth yn ehangach na gwrth-hiliaeth.”

Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr SBARC, yr Athro Chris Taylor: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Usha yn gweithio gyda ni yn SBARC. Mae ei gwaith ar ddatblygu arweinyddiaeth yng Nghymru, ac yn rhyngwladol gyda chyrff anllywodraethol yn Affrica ac India, ynghyd â'i gwaith yn hyrwyddwr ac yn hyfforddwr ym maes cydraddoldeb, yn grymuso SBARC wrth iddo lunio dyfodol gwrth-hiliaeth yn ein cymuned a ledled Cymru yn fwy cyffredinol.”

A hithau’n Gymrawd Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Usha-Ladwa Thomas hefyd yn cynnal ymchwil ar gyd-ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru, gan roi profiad bywyd cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wrth wraidd y cyfan, gan gyfweld â rhanddeiliaid i fireinio'r broses o lunio polisïau.

Yn ddiweddar, anerchodd Usha Uwchgynhadledd Arweinwyr Cyhoeddus ar wrth-hiliaeth, gan nodi enghreifftiau penodol o ymddygiad gwrth-hiliol. Bydd yn parhau i feithrin cysylltiadau'r Brifysgol ag Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb Hil Llywodraeth Cymru a sefydliadau cysylltiedig.

Roedd Usha wrth ei bodd yn cael ei chydnabod am ei chyfraniadau dros y blynyddoedd. Ac, fel y dywedodd, “yn fwy felly oherwydd i hyn ddeillio o fenywod lleiafrifoedd ethnig a oedd yn cydnabod bod fy ngwaith yn gwella cyfleoedd bywyd y genhedlaeth nesaf.”

Rhannu’r stori hon