Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd yn dathlu cael ei hailachredu gan yr AACSB

30 Mehefin 2023

A green logo with the letters 'AACSB'

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael ei hailachredu gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB) am bum mlynedd arall, a hynny er mwyn cydnabod ei rhagoriaeth a'i hymrwymiad o safon fyd-eang i wella'n barhaus.

Ar ôl iddi gael ei hachrediad ddiwethaf yn 2018, mae'r estyniad yn golygu bod Ysgol Busnes Caerdydd yn parhau i fod yn y 5% uchaf o ysgolion busnes ledled y byd.

Roedd proses ailachredu’r AACSB yn cynnwys adolygiad allanol trylwyr o genhadaeth yr ysgol, ei heffaith gymdeithasol, cymwysterau’r ysgol, ei chwricwla yn ogystal â'r gallu i ddarparu'r rhaglenni o'r safon uchaf. Yn rhan o'r broses hon, mae tîm adolygu gan gymheiriaid a benodwyd gan yr AACSB wedi cadarnhau cryfder a safon gwaith Ysgol Busnes Caerdydd.

Canmolwyd yr ysgol gan yr AACSB am: diwylliant ei chydweithio hael, ei chefnogaeth i’r staff a’r myfyrwyr, ei rhaglen ddoethurol, a’r Bwrdd Cynghori Rhyngwladol effeithiol. Tynnodd panel adolygu’r cymheiriaid sylw hefyd at ei nodweddion unigryw, megis Bwrdd Rheoli Cysgodol yr Ysgol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd:

“Rydym yn falch iawn o gael ein hailachredu gan yr AACSB. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella’n barhaus ym mhob maes o'n gweithgarwch.”
Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n arbennig o falch bod y tîm adolygu gan gymheiriaid wedi canmol ethos gwerth cyhoeddus yr ysgol a'n hymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar y cyd a fydd o fudd i gymunedau Caerdydd, Cymru, y DU a'r byd

Dyma’r trydydd tro inni gael ein hachredu gan yr AACSB ac mae'r llwyddiant hirdymor hwn yn adlewyrchu ymrwymiad a chyfraniadau parhaus ein cydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd. Peth braf iawn oedd gweld bod panel adolygu gan gymheiriaid y AACSB wedi tynnu sylw at lefel y cydweithio hael yn yr Ysgol yn ystod eu hymweliad hefyd.”

Dyma a ddywedodd Stephanie M Bryant, is-lywydd gweithredol a phrif swyddog achredu byd-eang yr AACSB: “Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi dangos ffocws ar ragoriaeth ym mhob maes, gan gynnwys yr addysgu, yr ymchwil, datblygu cwricwla a dysgu’r myfyrwyr. Mae'r broses adolygu ddwys gan gymheiriaid yn enghraifft o'u hymrwymiad i addysg busnes o safon.”

Rhannu’r stori hon