Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr arbennig i un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg

29 Mehefin 2023

Mae dau ddyn yn gwenu at y camera. Mae un dyn yn dal gwobr ac yn gwisgo crys glas siecrog ac mae'r llall yn gwisgo crys gwyn.
Deio Owen yn seremoni wobrwyo'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi derbyn gwobr addysg uwch mewn seremoni arbennig.

Ar nos Fawrth 13 Mehefin, mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan S4C yr Egin yng Nghaerfyrddin, enillodd Deio Owen Wobr Merêd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Gwobr Merêd yn un o wobrau blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n cydnabod cyfraniad myfyriwr i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn prifysgol yn ehangach.

Mae Deio yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Yn ogystal ag astudio, fe hefyd yw Swyddog y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr y brifysgol ac ymhen ychydig wythnosau, mi fydd yn dechrau yn ei rôl newydd fel Is-lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru yr Undeb.

Dywedodd Deio: “Mae hi’n fraint derbyn gwobr Merêd eleni gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am fy ngwaith yng Nghaerdydd.

“Mae’r Coleg yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau cyfleoedd Cymraeg yn y byd addysg ac mae’n braf gweld gwaith yn cael ei wneud yng Nghaerdydd i sicrhau cyfleoedd i ddefnyddwyr y Gymraeg yma.”

A man wearing a blue checked shirt is receiving an award from a man wearing a white shirt during an awards ceremony. Both men are smiling.
Deio Owen receiving his award.

Cafodd Deio ei enwebu ar gyfer y wobr gan Dr Angharad Naylor o Ysgol y Gymraeg. Dywedodd Dr Naylor: “Rwy’n eithriadol o falch fod Deio wedi derbyn Gwobr Merêd eleni. Mae ei frwdfrydedd a'i weithgarwch diflino yn sicrhau llais cadarn a chynhwysol i'r Gymraeg yma yng Nghaerdydd.

“Mae’n gwbl ymroddedig i bob agwedd ar ei waith ac yn cefnogi ei gyd-fyfyrwyr a staff i allu manteisio ar brofiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

“Bu’n weithgar eleni wrth godi ymwybyddiaeth a hyfforddi ei gyd-swyddogion Sabothol am y Gymraeg a’u harwain ar ymweliadau ag Undebau Bangor ac Aberystwyth i ddysgu o’u profiadau hwythau o gynnal rôl Swyddog y Gymraeg yno.

“Arweiniodd weithgareddau Diwrnod Sumae/Shwmae a Gŵyl Ddewi ac mae’n rhan o’r cynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfrannodd at Neges Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru eleni ac mae’n gweithio gyda UCM Cymru i lobio’r Llywodraeth i gynyddu benthyciadau myfyrwyr.

“Bu’n Gadeirydd y Panel Myfyrwyr Staff, yn arwain Cymdeithas Iolo a bu’n Llysgennad CCC ac yn fentor i fyfyrwyr yn ystod ei gyfnod yn Ysgol y Gymraeg. Mae’n diwtor ar raglen Cymraeg i Bawb ac roedd yn un o diwtoriaid cyntaf rhaglen Tiwtoriaid Yfory.”

Roedd Deio ymhlith nifer o bobl wnaeth ennill gwobr ar y noson. Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith o’r safon uchaf a’u cyfraniad tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog ôl-orfodol. Mae eu dylanwad yn codi proffil y Gymraeg yn eu sefydliadau yn enfawr, a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”

Rhannu’r stori hon