Meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn India
3 Gorffennaf 2023
Ym mis Mai 2023, teithiodd yr Athro Eleri Rosier i India i gwrdd â deiliaid cynnig, cynfyfyrwyr a phartneriaid rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd.
Roedd y daith yn un gynhyrchiol, a helpodd i feithrin cysylltiadau â'n cymuned yn India. Dyma’r Athro Eleri Rosier yn dweud wrthym am ei phrofiad…
“Roeddwn i’n falch iawn o ymweld ag India i gwrdd â’n tîm yn y wlad ac ymweld â dinasoedd allweddol sy’n gartref i fyfyrwyr rydyn ni’n eu croesawu i Ysgol Busnes Caerdydd bob blwyddyn. Mae India yn farchnad strategol bwysig i Brifysgol Caerdydd, felly roedd yn dda gallu bod yno yn y cnawd ar ôl cyfnod y pandemig a’r holl heriau o ran teithio dros y blynyddoedd diwethaf.
Es i ar yr ymweliad fel rhan o’m rôl fel Cyfarwyddwr Derbyn a Recriwtio Myfyrwyr Ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd â Sarah Sherrington, Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Digwyddiad i ddeiliad cynnig ym Mumbai
Yn fuan ar ôl cyrraedd Mumbai, dinas boeth, brysur a swnllyd iawn, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad i ddeiliaid cynnig Prifysgol Caerdydd yng Ngwesty'r Taj. Fe wnaeth y digwyddiad bara dros dair awr, ac roedd siarad â myfyrwyr a'u rhieni wyneb yn wyneb yn brofiad hyfryd; roeddwn i eisoes wedi rhyngweithio â llawer ohonyn nhw drwy e-bost ac ar LinkedIn, gyda'r sesiwn Holi ac Ateb hiraf i mi fod yn rhan ohoni erioed!
Cinio i gynfyfyrwyr MBA
Diolch i’r tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, fe wnaethon ni gynnal cinio i gynfyfyrwyr, gyda myfyrwyr MBA blaenorol, a threulio’r noson yn hel atgofion am eu hamser yng Nghaerdydd. Ein gobaith yw y byddan nhw nawr yn ailddechrau cangen cynfyfyrwyr ym Mumbai, gan gynnal digwyddiadau rhwydweithio i ymgysylltu â chynfyfyrwyr eraill yn yr ardal.
Cyfarfod â darpar fyfyrwyr
Ynghyd â Dheeraj Kumar, Uwch Swyddog Rhyngwladol yn ein tîm rhyngwladol yn India, fe wnaethon ni ymweld â dau o’n hasiantau allweddol ymMumbai yn IDP Education ac SI-UK, lle buom yn ffodus i gwrdd â darpar fyfyrwyr. Fe wnaethon ni helpu i ateb llawer o gwestiynau am ein meini prawf mynediad gyda staff yr asiantau a rhoi hyfforddiant hanfodol iddyn nhw am ein rhaglenni.
Digwyddiadau i ddeiliaid cynnig yn Bangalore a Coimbatore
Gyda Priyanka Saluja, ein Swyddog Rhyngwladol Cynorthwyol yn India, fe wnaethon ni gynnal mwy o ddigwyddiadau hynod lwyddiannus i ddeiliaid cynnig yn Bangalore a Coimbatore. Mae'r ddau yn lleoliadau pwysig sy'n denu llawer o geisiadau i'n rhaglenni ôl-raddedig yn yr Ysgol Busnes. Roedd yn arbennig o braf cwrdd wyneb yn wyneb ag ymgeiswyr MBA a oedd wedi bod drwy'r broses gyfweld gyda ni. Buon ni’n siarad â nhw am Gaerdydd cyn iddyn nhw ddechrau eu rhaglen gyda ni yn yr hydref.
Dylwn i ychwanegu hefyd, gan mai hwn oedd fy ymweliad cyntaf erioed ag India, i mi gael profiad hyfryd yn ymweld â dinasoedd mor wahanol gyda llu o ddanteithion i’w blasu!
Cwrdd â phartneriaid, deiliaid cynnig a chynfyfyrwyr yn Delhi Newydd
Ein stop olaf oedd Delhi Newydd, mewn gwres dros 40 gradd, i ymweld â phrif asiantaeth SI-UK yn yr enwog Connaught Place. Fe wnaethon ni gwrdd â rhai cynghorwyr a'u hyfforddi, a siarad â myfyrwyr am eu cynigion.
Llwyddon ni i weithio ar ein sgiliau bargeinio mewn stondinau stryd yno cyn mynd i’r gwesty eiconig Ambassador ar gyfer digwyddiad prysur iawn i ddeiliad cynnig, gyda’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn bresennol yn ddeiliaid cynnig ar gyfer Ysgol Busnes Caerdydd. Fe wnaeth y tîm yn India ein helpu ni i gynnal y digwyddiad hwn ac yna digwyddiad arall hynod lwyddiannus i gynfyfyrwyr y noson honno. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gynfyfyrwyr o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Cafwyd noson wych gyda nhw, ac yn sicr byddwn ni nawr yn gallu ailddechrau cangen cynfyfyrwyr yn Delhi Newydd yn y dyfodol agos.
Roedd yn wych ymweld ag India am y tro cyntaf, i gysylltu ag asiantau allweddol a rhoi cyngor i ddarpar fyfyrwyr. Pleser hyd yn oed yn fwy oedd rhoi gwybod i fyfyrwyr a’u teuluoedd pam y bydden nhw’n mwynhau dod i Ysgol Busnes Caerdydd, ac rwy’n gobeithio cwrdd â nhw pan fyddan nhw’n dechrau gyda ni yn yr hydref. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweithio ochr yn ochr â’r tîm hynod weithgar yn India a oedd yn gofalu amdanom ni mor dda.”