Ewch i’r prif gynnwys

Ailymweld â’r Gymru ganoloesol gynnar

27 Mehefin 2023

Llyfr diweddaraf hanesydd yn ennill gwobr am y gwaith gorau ym maes hanes Cymru

Cyhoeddwyd mai Dr Rebecca Thomas, hanesydd sy’n arbenigo ar y canol oesoedd yw enillydd Gwobr Francis Jones ym maes Hanes Cymru, 2022.

Mae ei chyfrol, History and Identity in Early Medieval Wales, yn astudiaeth ar sut y bu i destunau Cymru o’r nawfed a'r ddegfed ganrif lunio syniadau o ran hunaniaeth ethnig. Mewn geiriau eraill, sut y bu iddynt ddiffinio'r Cymry fel 'pobl', yn wahanol i drigolion eraill Prydain ac Iwerddon.

Roedd enwau yn amlwg yn bwysig wrth roi hunaniaeth gyfunol i bobl, ac maent hefyd yn aml yn gysylltiedig â thiriogaeth benodol. Hwyrach y rhoddid sylw i’r gwahanol ieithoedd yr oedd gwahanol bobloedd yn eu siarad. Yn amlach na pheidio, câi pwyslais ei roi ar hanes cyffredin, gan gynnwys llunio chwedl tarddiad ar gyfer y gens (neu bobl).Mae'r llyfr yn ystyried pob un o'r elfennau hyn yn ei dro ac yn ymchwilio i sut roedd awduron yn defnyddio’r rhain yn y broses o lunio hunaniaeth.

Wedi’i henwi er cof am gyn-Herald Arbennig Cymru, Francis Jones, sefydlwyd Gwobr Francis Jones, sy’n wobr flynyddol, gan Syr David Lewis, Cymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 2017 a hynny i ddathlu llenyddiaeth hanesyddol Cymru.

A hithau wrth ei bodd o fod wedi ennill Gwobr Francis Jones am Hanes Cymru, eglura Dr Thomas arwyddocâd ei llyfr:

“Mae fy monograff yn astudiaeth destunol agos o lond llaw o ffynonellau o Gymru’r nawfed a’r ddegfed ganrif, ac mae’n datgelu’r hyn y gallant ei ddweud wrthym am sut roedd awduron canoloesol yn llunio hunaniaethau. Mae'r cyfnod hwn yn arbennig o ddiddorol oherwydd eich bod yn gweld hunaniaeth y Cymry fel Brythoniaid, sef trigolion Prydain gyfan, yn rhyngweithio â dyfodiad hunaniaeth sy'n canolbwyntio ar uned ddaearyddol Cymru. Gwelwn hefyd lawer o’r un syniadau hyn yn cael eu haddasu a’u hailgylchu drwy gydol yr Oesoedd Canol a thu hwnt, ac felly mae deall y testunau hyn yn bwysig o ran sut yr ydym yn gweld y broses o lunio hunaniaeth Gymreig mewn cyfnodau eraill hefyd.”

Yn ddiweddarach y mis hwn cyhoeddir nofel hanesyddol ddiweddaraf Dr Rebecca Thomas ar gyfer oedolion ifanc Y Castell ar y Dŵr sy'n adrodd hanes y crannog canoloesol ar Lyn Syfaddan.

Cyhoeddwyd History and Identity in Early Medieval Wales gan Boydell a Brewer ym mis Ebrill 2022.

Rhannu’r stori hon