Ewch i’r prif gynnwys

Atebion newydd ar gyfer therapi Parkinson i’r dyfodol

13 Mehefin 2023

Genes

Gallai moleciwlau helpu i drin clefyd Parkinson yn y dyfodol drwy atal tocsinau rhag cronni yn yr ymennydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae clefyd Parkinson yn effeithio 1 mewn 37 o bobl yn y DU, ac mae’n fath o ddementia sy’n cael ei achosi gan gamweithrediad mitocondria - rhannau bach yng nghelloedd yr ymennydd - sy’n gallu arwain at docsinau yn crynhoi yn yr ymennydd, ac at farwolaeth celloedd yr ymennydd.

Nawr, mae ymchwilwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd wedi dylunio moleciwlau newydd sy'n ymddangos fel pe baent yn arafu cynnydd y clefyd trwy dargedu swyddogaeth y mitocondria.

Canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar ensym o'r enw PINK1. Mewn clefyd Parkinson, nid yw’r ensym hwn yn gweithio’n iawn ac mae hynny’n achosi’r mitocondria yng nghelloedd yr ymennydd i fethu.

Dywedodd Dr Youcef Mehellou, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: Er mwyn helpu i drin clefyd Parkinson, mae angen i ni ddod o hyd i driniaeth sy'n targedu'r mitocondria sy'n methu.

“Trwy ein hymchwil, fe wnaethom ddylunio a chreu cyfansoddion cemegol i dargedu'r ensym PINK1, gan sbarduno atgyweirio neu ailgylchu'r mitocondria sydd wedi'u difrodi, yn ogystal ag atal y tocsin niweidiol rhag cronni yng nghelloedd yr ymennydd.”

Ychwanegodd Dr Rhys Thomas, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Drwy ein hymchwil rydym wedi nodi dosbarth newydd o foleciwlau sydd â'r potensial i drin clefyd Parkinson. Yn hanfodol, mae ein hymchwil yn dangos ei bod yn bosibl cael moleciwlau sy'n clirio mitocondria sydd wedi'u difrodi ac sydd hefyd yn atal tocsinau rhag cronni yn ymennydd cleifion sydd â chlefyd Parkinson. Mae hwn yn ddarganfyddiad cyffrous, oherwydd hyd yma, ni chafwyd unrhyw adroddiadau ynghylch moleciwlau a all wneud y ddau.

“Mae'r ymchwil hon yn gam ymlaen o ran dod o hyd i driniaethau wedi'u targedu ar gyfer y math hwn o ddementia. Mae gennym ni fwy o ymchwil i’w wneud cyn i hyn fod ar gael i drin i gleifion, ond mae ein hymchwil yn dod â ni gam yn nes at therapi newydd wedi’i dargedu ar gyfer clefyd Parkinson.”

Cyhoeddwyd yr ymchwil, PINK1-Dependent Mitophagy Inhibits Elevated Ubiquitin Phosphorylation Caused by Mitochondrial Damage, yn y Journal of Medicinal Chemistry ar 29 Mai 2023.