Ewch i’r prif gynnwys

Mae cwmni cyfreithiol byd-eang yn cynnig lleoliadau o fri yn dilyn rownd derfynol y gwobrau

4 Gorffennaf 2023

Betsy Board / Joshua Gibson
Betsy Board / Joshua Gibson

Mae dau fyfyriwr ail flwyddyn y gyfraith wedi cael cynnig am leoliad mewn cwmni cyfreithiol byd-eang sy'n arbenigo mewn yswiriant, trafnidiaeth, ynni, seilwaith, a masnach a nwyddau.

Llwyddodd Betsy Board a Joshua Gibson, sy’n astudio’r gyfraith a throseddeg a’r gyfraith yn y drefn honno, i gyrraedd rowndiau terfynol categori Cyfreithiwr y Dyfodol eleni yng Ngwobrau Israddedig Target ym mis Ebrill. Er na chipiodd y naill fyfyriwr na’r llall y brif wobr, gwnaeth eu ceisiadau a’u dawn gymaint o argraff ar noddwr y gwobrau, y cwmni cyfreithiol Clyde & Co, cawson nhw gynnig o leoliad gan y cwmni.

Mae Clyde & Co yn gwmni byd-eang sy'n cyflogi 5000 o bobl ar draws 60 o swyddfeydd ledled y byd. Maent yn llywio risgiau masnach a masnachol ac yn rhannu eu harbenigedd ers 90 mlynedd.

Mae Betsy wrth ei bodd â'r her o astudio'r gyfraith ac mae'n mwynhau mynd i'r afael â naws y pwnc tra bod Joshua yn gwerthfawrogi'r gwahanol bobl y byddwch chi'n cwrdd â nhw, boed yn fyfyrwyr, staff neu weithwyr proffesiynol y mae'n dweud eu bod yn barod eu cymwynas.

Wrth siarad am ei chyfle ar leoliad, dywedodd Betsy, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn y lleoliad yn Clyde & Co. Roedd yn gwmni o ddiddordeb i fi erioed ac rwy'n gyffrous iawn cael profiad pellach o'u gwaith. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhywfaint o brofiad o fewn eu gwaith yn y sector, yn ogystal â rhwydweithio gyda myfyrwyr o’r un meddylfryd.”

Dywedodd Joshua, “Fy mhrif amcan ar gyfer ymgeisio ar gyfer Gwobrau Israddedig Target oedd profi i mi fy hun y gallwn wneud yn dda mewn rhywbeth fel hyn a hefyd ceisio cael Clyde & Co i wybod pwy ydw i gan eu bod yn un o’m prif gwmnïau. Cefais sioc fawr pan ges i gynnig i gymryd rhan yn y cynllun ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato nawr. Bydd yn brofiad dysgu rhagorol.”

Cychwynnodd Betsy ar ei lleoliad gyda’r cwmni yn Llundain ym mis Mehefin tra bod Joshua wedi gohirio ei leoliad tan wanwyn 2024.

Meddai Helen McNally, Rheolwr Gyrfaoedd y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, “Mae cyrraedd camau terfynol Gwobrau Israddedig Targed y Flwyddyn yn gyflawniad gwych i Betsy a Joshua a oedd ymhlith 132 yn y rownd derfynol a ddewiswyd o blith dros 4700 o ymgeiswyr eleni! Mae'r broses ymgeisio yn unig yn baratoad ardderchog ar gyfer y broses recriwtio graddedigion sy'n tueddu i fod yn hirfaith i gwmnïau cyfreithiol.

Er nad oedd Betsy a Joshua wedi ennill, mae'r ffaith bod y ddau wedi cael cynnig o gyfle i fynd ar leoliad gyda Clyde & Co yn dangos argraff gadarnhaol wych a gawsant ar y cwmni.  Byddwn yn annog myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd fel hyn – os nad ydych yn gwneud cais, yn bendant ni fyddwch yn ennill, ond os gwnewch, pwy a ŵyr pa gyfleoedd allai godi o ganlyniad!”

Rhannu’r stori hon