Ewch i’r prif gynnwys

Mae adborth rhagorol ynghylch y cwrs Mwslimiaid ym Mhrydain yn dangos effaith gadarnhaol ar addysgu AG

12 Mehefin 2023

Muslims in Britain online course

Mae cwrs DPP ar-lein sy'n archwilio profiad byw Mwslimiaid ym Mhrydain yn cael adborth gwych gan athrawon Addysg Grefyddol o bob cwr o'r DU.

Mae Canolfan Islam-y DU (sy'n rhan o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd) wedi datblygu cwrs DPP ar-lein i helpu athrawon Addysg Grefyddol i archwilio Islam o safbwynt cymdeithasegol yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r cwrs wedi'i ddylunio gan arbenigwyr ym maes ymchwil gymdeithasegol sy'n trafod Mwslimiaid ym Mhrydain, ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn meysydd eraill sy’n ymwneud ag Astudiaethau Islamaidd, ac fe'i cymeradwyir gan Gyngor Mwslimaidd Prydain, Cyngor Mwslimaidd Cymru ac RE Today.

Hyd yn hyn, mae'r cwrs wedi cael ei gynnal gyda dwy garfan o athrawon Addysg Grefyddol yn gweithio ar wahanol gyfnodau allweddol, ac mae'n ysgogi adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr, sy'n canmol yr effaith ymarferol ar eu hymarfer yn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd cyfranogwr ar gwrs 2023:

Ar hyn o bryd rwy'n dysgu uned Bl8 ar Islam ac yn teimlo cymaint yn fwy hyderus wrth gyflwyno'r cynnwys. Mae gen i ddisgybl brwdfrydig iawn, ac rwy’n gofyn iddi gywiro fy ynganiadau o dermau Arabeg ac ychwanegu unrhyw wybodaeth arall yn ystod trafodaethau dosbarth cyfan. Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn ynghylch y cyfle i rannu ei ffydd mewn 'amgylchedd ystafell ddosbarth diogel' ac mae'n dweud bod hyn wedi caniatáu iddi siarad â’i Imam am ei gwaith ysgol [sydd yn eu tro, yn ôl fy nisgybl] hefyd yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â chynnwys ein huned. Pe bawn i heb gymryd rhan yn y cwrs, byddwn wedi ceisio osgoi'r termau Arabeg fy hun ond nawr rwy'n teimlo'n hyderus i roi cynnig arni hyd yn oed os nad wyf 100% yn gywir wrth wneud hynny. Diolch eto am gynnal cwrs a DPP sy’n talu ar ei ganfed o ran athrawon Addysg Grefyddol, ac sydd wir yn fuddiol o ran ein pwnc.

Dywedodd cyfranogwr arall ar y cwrs wrthym am yr effaith gadarnhaol y mae'r cwrs wedi'i chael ar eu haddysgu:

..".. Roedden ni'n dysgu am beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim felly defnyddiais y carwsél ac roedd y dosbarth wrth eu bodd. Dywedais wrthynt ei bod yn fraint dysgu am Islam gan Fwslimiaid ac rwy'n bwriadu defnyddio’r carwselau, a syniadau eraill yn rhannau creiddiol yn fy ngwersi. Fe wnes i sticer o'r carwsél ar gyfer y disgyblion, fel eu bod yn dod i adnabod wynebau ein cyfranogwyr Mwslimaidd. Roedden nhw'n arbennig o hoff o Faraz oherwydd ei fewnbwn am lanhau ei ddannedd! A Laiqah am geisio rhegi lai. A minnau’n athrawes sydd heb fod yn Fwslimaidd mae llawer o bethau ar y carwsél hwn na fyddwn i wedi meddwl eu dweud wrthyn nhw. Mae wedi helpu i esbonio beth mae’n ei olygu i fod yn Fwslimiaid mewn ardal nad yw'n Fwslimaidd iawn.

Example of how Muslims In Britain course can be adapted for classroom
Example of how the Muslims in Britain short course can be used in the RE classroom.

Mae'r cwrs diweddaraf bellach wedi dod i ben, gyda'r derbyniad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer 2024. Gall athrawon gael mynediad o hyd at gyfres o adnoddau rhad ac am ddim sydd wedi'u cynllunio i ategu'r rhaglen. Gellir lawrlwytho’r adnoddau hyn, eu golygu a'u rhannu, yn rhad ac am ddim, ac ynddynt ceir naw gwers ac asesiad, sy'n canolbwyntio ar y cwestiwn allweddol, 'Beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim ym Mhrydain heddiw?'. I gael mynediad at yr adnoddau, cwblhewch yr arolwg byr hwn.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gallem drefnu DPP ar gyfer eich sefydliad neu sector, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar i gael sgwrs gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Lawrlwythwch y gyfres hon o ddeunyddiau addysgu am Ddarganfod Mwslimiaid ym Mhrydain. Mae’r gyfres ar gael yn rhad ac am ddim a gallwch olygu’r deunyddiau.