Ewch i’r prif gynnwys

Nod y rhaglen Ymholiad Cydweithredol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yw annog trawsnewid parhaus mewn arferion addysgu

6 Mehefin 2023

Teachers meeting

Mae academyddion o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol yn gweithio gyda phenaethiaid ac uwch-arweinwyr o 12 ysgol ar draws Castell-nedd Port Talbot, i ddatblygu eu profiadau a'u harbenigedd wrth weithio gyda’r rhaglen i gefnogi eu dysgu proffesiynol eu hunain a'u staff.

Mae symud i weithio mewn ffordd sy'n gwneud ymholi’n nodwedd allweddol o ddysgu proffesiynol, a'i integreiddio yn rhan o ddiwylliant yr ysgol yn heriol. Felly, mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen i sefydlu diwylliannau proffesiynol sy'n cefnogi gweithio fel hyn.

Datblygwyd y rhaglen bwrpasol hon ar gyfer Castell-nedd Port Talbot; Mae’n cynnwys cyfres o sesiynau a gynhaliwyd dros gyfnod o flwyddyn academaidd. Mae’r Athro Emmajane Milton a Dr Alex Morgan yn gweithio gyda 24 o gyfranogwyr o ysgolion ar draws y rhanbarth, i gefnogi datblygu ymholi’n nodwedd drawsnewidiol o arferion arweinyddiaeth mewn ffordd sy’n gwarchod rhag iddo ddod yn weithgaredd cam wrth gam neu flwch ticio.

Mae’r rhaglen yn anelu at ddatblygu ac ymgorffori dealltwriaeth o gefnogi 'safbwynt ymholiad' mewn arferion addysgol ac arweinyddiaeth. Anogir cyfranogwyr i edrych ar ffyrdd o weithio sy’n cefnogi ymholiad cydweithredol ar gyfer dysgu proffesiynol ystyrlon yn eu cyd-destun addysgol penodol. Mae'r rhaglen yn caniatáu i arweinwyr roi ystyriaeth ofalus a beirniadol am gefnogaeth ar gyfer pob dysgu, gan gynnwys arferion dysgu proffesiynol yn eu cyd-destun eu hunain.

Dywedodd Emmajane ac Alex:

Mae’n fraint gweithio gyda’r grŵp hwn o benaethiaid ac uwch arweinwyr gwych sydd wedi ymrwymo i weithio fel hyn i newid arfer ac yn y pen draw effeithio’n gadarnhaol ar brofiad dysgwyr. Mae’r ffordd hon o weithio yn rhoi lle blaenllaw i’r dysgwr ac mae wedi’i deilwra i bob cyd-destun addysgol unigryw wrth edrych ar heriau o ddydd i ddydd yn yr ystafell ddosbarth ac heriau ynghylch arweinyddiaeth. Mae’n galluogi ystyriaeth feirniadol o ymarfer ac yn cefnogi trafodaethau gonest, agored a myfyriol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am gyfleoedd DPP ar gyfer eich sefydliad, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar am sgwrs anffurfiol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Darllenwch ein Hadolygiad o'r Flwyddyn 2022.