Ewch i’r prif gynnwys

Mae cynhadledd safon byd-eang y Labordy Cyfiawnder Data yn ôl

12 Mehefin 2023

Labordy Cyfiawnder Data

Fis Mehefin eleni bydd academyddion, ymarferwyr ac ymgyrchwyr yn cwrdd â’i gilydd ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno eu syniadau a’u hymchwil yn y drydedd Gynhadledd Ryngwladol ar Gyfiawnder Data.

O dan y thema Profiadau Cyfunol yn y Gymdeithas yn sgil Twf Data bydd y gynhadledd arloesol hon yn trin a thrafod effeithiau, profiadau bywyd a mathau o wrthsefyll mewn perthynas â thwf data.

Bydd Cynhadledd Cyfiawnder Data 2023 yn cyfuno ystod o brif anerchiadau, trafodaethau panel a gweithdai i drafod ystyr ac arferion cyfiawnder cymdeithasol a phrofiadau cyfunol cymdeithas sy’n bodoli yn sgil twf data.

Bydd y gynhadledd, a gynhelir gan y Labordy Cyfiawnder Data yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) Prifysgol Caerdydd, yn cynnig ffyrdd newydd o feddwl am dwf data a’r broses ganlynol o flaenoriaethu cyfiawnder data, a sut i drefnu’r gwaith hwnnw.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

  • Catherine D'Ignazio (Sefydliad Technoleg Masssachusetts, UDA)
  • Mirca Madianou (Goldsmiths, Prifysgol Llundain, y DU)
  • Carolina Botero Cabrera (Karisma, Colombia)
  • Hamid Khan (Stop LAPD Spying Coalition, UDA)
  • Donna Cormack (Prifysgol Otago, Seland Newydd)
  • Patrick Williams (Prifysgol Fetropolitan Manceinion, y DU)

Dyma a ddywedodd Cyd-gyfarwyddwr y Labordy Cyfiawnder Data Dr Emiliano Treré, “Rydyn ni wrth ein boddau yn croesawu unigolion o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd i ymuno â ni i drafod pwnc hynod bwysig Cyfiawnder Data”.

“Ein nod yw ieuo pŵer deialog ar y cyd i greu effeithiau ystyrlon, llwybrau ymchwil newydd ac ymchwil gyhoeddedig ym maes y gymdeithas ddata sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth.”

Cynhelir y gynhadledd ar 19-20 Mehefin ac mae bellach yn llawn. Bydd allbynnau'r gynhadledd yn cael eu cyflwyno i'w cyhoeddi hwyrach yn y cyfnodolyn rhyngwladol o'r radd flaenaf Big Data & Society.

Rhannu’r stori hon

Mae bwrsariaeth 'Stationers' Foundation' yn agored i fyfyrwyr Newyddiaduraeth Newyddion a Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data.