Ewch i’r prif gynnwys

Dr Angela Mihai elected Vice President of SIAM-UKIE

24 Mai 2023

Mae Dr Angela Mihai, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi yn Ysgol Mathemateg Caerdydd, wedi’i hethol yn Is-lywydd Is-adran y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon y Gymdeithas Mathemateg Ddiwydiannol a Chymhwysol (SIAM-UKIE).

Dyma a ddywedodd Dr Mihai, a fydd yn y swydd rhwng 2023 a 2025: “Diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd yn etholiadau SIAM-UKIE eleni! Rwy’n edrych ymlaen at fandad dwy flynedd cyffrous i hyrwyddo a chefnogi mathemateg ddiwydiannol a chymhwysol, a dilyn ymrwymiad SIAM i rymuso cyfranogiad teg, amrywiol a chynhwysol ym mhob gweithgaredd a drefnir gan yr Is-adran.

Gan weithio’n agos gyda’r Llywydd a’r Ysgrifennydd a’r Trysorydd, byddaf yn canolbwyntio ar gryfhau SIAM-UKIE sy’n rhwydwaith ac yn sbardun ar gyfer mathemategwyr cymhwysol o grwpiau sydd heb ddigon o gynrychiolaeth, ar wahanol gamau yn ystod eu gyrfaoedd.

Yr Athro Angela Mihai Lecturer in Applied Mathematics

Sefydlwyd Is-adran SIAM-UKIE ym 1996 ac mae pob un o aelodau SIAM sy’n gweithio neu’n byw gan fwyaf yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon yn aelod fel mater o drefn, a hynny’n rhad ac am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am SIAM ar gael ar eu gwefan https://www.siam.org. Mae acronym SIAM hefyd yn golygu “mae gwyddoniaeth a diwydiant yn datblygu ar y cyd â mathemateg”.

A hithau’n Gyfarwyddwr Ymchwil  yn yr Ysgol Mathemateg, mae Dr Mihai yn chwarae rhan annatod yn arwain ymchwil yr Ysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys mathemateg mecaneg solet, modelu deunyddiau meddal, dadansoddi rhifyddol a chyfrifiadura gwyddonol.

Mae Dr Mihai hefyd yn un o’r ymgynghorwyr a sefydlodd gyfadran Cymdeithas Myfyrwyr SIAM-IMA ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon