Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd prydferth

22 Mai 2023

Mae drama newydd yn cydnabod talent aruthrol awdures anghyfarwydd o Gymru ac un o gyfoedion yr enwog Set Bloomsbury

Mae talent anghyfarwydd o fyd ysgrifennu’r 20fed ganrif yn serennu mewn drama newydd gan gyd-fyfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd.

Wedi’i geni yn Aberogwr ym 1908, roedd Dorothy Edwards yn gantores addawol ac awdures (Rhapsody (1927) a Winter Sonata (1928)). Roedd yn uchel ei pharch yn ystod ei hoes ond bellach wedi mynd yn angof. Mae'r ddau lyfr yn disgrifio menywod yn cael eu hymyleiddio yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

Yn Gymraes, aelod o’r dosbarth gweithiol ac unigolyn annibynnol, roedd Edwards yn un o oroeswyr yr anoddefgarwch cymdeithasol at fenywod a wrthodai ufuddhau i godau moesol a chymdeithasol yr oes.

Roedd ei bywyd llawn yn anhygoel o fyr. Yn unigolyn o dalent eithriadol ar ymylon cymdeithas, bu farw ym 1934 drwy hunanladdiad, gan adael nodyn sy'n parhau i fod yn enwog heddiw.

Wedi teithio a darllen yn helaeth, graddiodd Edwards o Gaerdydd ym 1924 (Groeg ac Athroniaeth, BA) cyn symud i Lundain i ddilyn gyrfa ysgrifennu.

Yma daeth yn ffrindiau gyda’r awdur David Garrett a'i chyflwynodd i'r Set Bloomsbury fel 'Sinderela Cymru', gan ei galluogi i ysgrifennu wrth ddarparu gofal plant i'w deulu.

Byddai Edwards yn cael ei dathlu cyn hir gan yr arlunydd Dora Carrington, ond roedd ei statws cymdeithasol a'i chefndir cenedlaetholgar a sosialaidd yn groes i'r sîn gelfyddydol yn Llundain. Wedi colli ei bri, dychwelodd i Gymru i gefnogi ei mam weddw.

Mae drama newydd, A Beautiful Rhythm of Life and Death, yn dathlu talent yr awdures anghyfarwydd hon o Gymru.

Dyma ddrama gyntaf y darlledwr a'r awdur Gary Raymond a gyfarwyddir gan Chris Durnall mewn cynhyrchiad Company of Sirens. Mae sgôr byw y sioe yn dathlu sut mae ysgrifennu Edwards yn dilyn nodiant cerddorol ar sail y sonata.

Yn llais cyfarwydd ym myd y celfyddydau yng Nghymru, mae Gary Raymond yn awdur tair nofel a dau lyfr ffeithiol, cyflwynydd rheolaidd The Review Show a chyd-sylfaenydd Wales Arts Review. Mae ei PhD ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn edrych ar esblygiad y prif gymeriad mewn nofelau sy’n ymwneud â thrychinebau ecolegol.

Mae'r darlledwr a'r awdur o Gasnewydd yn esbonio beth wnaeth ei ddenu i'r prosiect hwn:

"Roedd yr atyniad i Dorothy yn ymwneud â'i hysbryd gymaint â’i hysgrifennu gwych. Hi yw awdur y nodyn hunanladdiad enwocaf yn y byd llenyddol o bosib, ac roeddwn i eisiau ei dyrchafu hi o'r etifeddiaeth gul honno. Mae'r rhai sy'n adnabod ei gwaith yn syrthio mewn cariad. A hi oedd, yn ôl pob sôn, y presenoldeb disgleiriaf, mwyaf di-flewyn-ar-dafod mewn unrhyw ystafell y byddai’n mynd i mewn iddi.

"Mae ei llythyrau yn dangos llais modern bywiog menyw ifanc ag angerdd a dyheadau a deallusrwydd aruthrol. Y peth pwysig i mi oedd creu fersiwn ohoni ar gyfer y llwyfan a fyddai’n troi pobl tuag ati hi a'i gwaith. Rwy'n credu - rwy'n gobeithio - y bydd y ddrama hon yn rhan o'r broses o'i sefydlu fel ffigwr llenyddol pwysig yng Nghymru a'r DU."

Mae teitl y ddrama wedi'i hysbrydoli gan eiriau Dorothy, a geir yn yr archifau sy'n cadw ei dyddiaduron a'i gwaith:

"Nid comedi na thrasiedi yw bywyd, ond yn hytrach rythm prydferth o fywyd a marwolaeth".

Mae A Beautiful Rhythm of Life and Death yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter Ddydd Mawrth 30 Mai 2023.

Rhannu’r stori hon