Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad llenyddol mawreddog

19 Mai 2023

Dwy fenyw ifanc yn gwenu at y camera yn sefyll mewn cyntedd ger poster.
Emma Hearn a Samyuktha Dasarathi yn Llysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain

Mae myfyrwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan mewn dyfarnu gwobr lenyddol fawreddog Ffrainc.

Mae rhaglen Choix Goncourt yn fenter gan Adran Addysg Uwch, Ymchwil ac Arloesedd Llysgenhadaeth Ffrainc yn y DU. Mae Institut français yn y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth â’r Académie Goncourt, y Maison française d’Oxford, yr Agence Universitaire de la Francophonie a’r siop lyfrau Ffrengig Librairie La Page yn cefnogi’r rhaglen.

Mae'r digwyddiad blynyddol, sydd wedi bod yn rhedeg am y 4 blynedd diwethaf, yn cael ei gynnal mewn 35 o wledydd ledled y byd. Mae'n hyrwyddo dysgu iaith a llenyddiaeth Ffrangeg. Mae hefyd yn hyrwyddo cyfieithu a chyhoeddi awduron cyfoes.

Cymerodd saith myfyriwr o'r Ysgol Ieithoedd Modern ran yng ngham darllen y gystadleuaeth. Roedd dau o’r myfyrwyr hyn, Samyuktha Dasarathi ac Emma Hearn, ymhlith 30 o fyfyrwyr o 15 o brifysgolion o bob rhan o’r DU a aeth ymlaen i ddewis yr enillydd yn Institut français yn Llundain.

Cyrhaeddodd pedwar llyfr y rhestr fer: Le Mage du Kremlin gan Giuliano da Empoli (Gallimard), Vivre vite gan Brigitte Giraud (Flammarion), Les Presque Sœurs gan Cloé Korman (Seuil) ac Une somme humaine gan Makenzy Orcel (Payot & Rivages). Penderfynodd y panel mai derbynnydd y wobr eleni fyddai Brigitte Giraud, gyda’i llyfr, Vivre Vite (Flammarion).

Dywedodd James Illingworth, a gydlynodd y gweithgaredd ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae’r Choix Goncourt UK yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr archwilio llenyddiaeth Ffrainc a Ffrangeg y tu allan i gyd-destun yr ystafell ddosbarth. Mae'r myfyrwyr dan sylw eleni wedi mynegi eu hunain yn wych yn Ffrangeg ar rai o bynciau mwyaf dybryd ein hoes. Dylai Samyuktha ac Emma fod yn falch o’u cynrychiolaeth ragorol o Gaerdydd yn y trafodaethau yn Llundain.”

Rhannu’r stori hon