Gwersi i Gymru a Chatalonia i'w hystyried mewn digwyddiad yn Llundain
20 Ebrill 2023
Bydd digwyddiad cyhoeddus yn swyddfa llywodraeth Catalwnia yn Llundain yn clywed gan Robert Jones a Richard Wyn Jones, awduron y llyfr academaidd cyntaf erioed ar System Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Dirprwyaeth Llywodraeth Catalwnia i’r DG ac Iwerddon sydd wedi trefnu’r digwyddiad, sy’n rhan o gyfres Sgwrs Tŷ Catalwnia, a gynhelir gan ddirprwyaeth y genedl honno i drafod pynciau sy’n berthnasol i Gatalwnia ymhellach.
Datgelodd y llyfr clodwiw bresenoldeb a goblygiadau Jagged Edge systematig rhwng lefel y DG a chyfrifoldebau datganoledig dros gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Bydd y digwyddiad hwn yn ystyried y gwersi ar gyfer Cymru a Chatalwnia, lle mae polisïau llywodraeth ganolog ac ymreolaethol yn aml yn gorgyffwrdd ac yn croestorri.
Ymwelodd Mr Francesc Claret, Cynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia i’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon, â Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Ionawr 2023, gan fwynhau cyflwyniadau ar brosiectau ymchwil mawr Canolfan Llywodraethiant Cymru.
Cynhelir y Sgwrs ar 17 Mai yn Catalonia House, 17 Fleet Street, Llundain. Mae'n agored i'r cyhoedd a all gofrestru drwy anfon ebost at uk@gencat.cat.