Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant ar restr fer ddwbl i waith Pro Bono Caerdydd

4 Mai 2023

Bwrdd Betsy ac aelodau o dîm Prosiect Cymru Wcráin.
Bwrdd Betsy ac aelodau o dîm Prosiect Cymru Wcráin.

Mae gwaith Pro Bono a gafodd ei gyflawni gan fyfyrwyr a staff Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi’i anrhydeddu gan elusen sydd wedi’i hymrwymo at alluogi mynediad at gyfiawnder.

Cynhaliwyd Gwobrau Pro Bono y Myfyriwr LawWorks a'r Twrnai Cyffredinol yn Nhŷ’r Cyffredin ar 27 Ebrill 2023. Roedd gwaith a wnaed gan fyfyriwr y Gyfraith a Throseddeg, Betsy Board a phrosiect Pro Bono, Prosiect Wcráin Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori 'Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr Unigol' a chategorïau 'Gweithgaredd Pro Bono Newydd Gorau' yn y drefn honno.

Gwaith Betsy, myfyrwraig yn yr ail flwyddyn, gyda'r elusen genedlaethol, Support Through the Court (STC) sicrhaodd yr enwebiad iddi. Oherwydd toriadau ariannol, sefydlwyd partneriaeth rhwng yr ysgol a STC sy'n gweld darpariaeth o wasanaeth prysur yn y llys ar gyfer litigants bregus wyneb yn wyneb, gyda chefnogaeth myfyrwyr. Mae Betsy yn arweinydd tîm a dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i reolwr y swyddfa. Mae hi wedi mynychu mwy na 10 gwrandawiad, gan ddarparu'r gefnogaeth emosiynol ymarferol i’r rhai mwyaf bregus. Teithiodd i Gasnewydd bob dydd am wrandawiad setliad ysgariad 4 diwrnod, gan helpu rhywun oedd wedi drysu am y system llysoedd ac yn bryderus amdani. Hefyd aeth hi’r ail filltir i gynorthwyo a helpu amrywiaeth o litigants gydag amrywiaeth o anghenion.

Prosiect Wcráin Cymru, a lansiwyd ym mis Hydref 2022, yw'r cynllun Pro Bono diweddaraf yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a'r elusen leol Asylum Justice. Mae’r prosiect yn cynnig cynllun cyngor mewnfudo rhad ac am ddim i unigolion a theuluoedd yng Nghymru sydd wedi ffoi o’u cartrefi oherwydd y rhyfel yn Wcráin. Mae 13 o fyfyrwyr ymroddedig yn gweithio ar y prosiect gydag arweinydd y prosiect, Jennifer Morgan yn rhoi’r holl gyngor cyfreithiol. Mae'r prosiect yn cynnwys Cymru i gyd ac yn ddi-bapur. Mae pob apwyntiad yn cael ei gynnal drwy MS Teams ac mae dogfennau'n cael eu drafftio'n electronig a'u hanfon at gleientiaid drwy ebost.

Dywedodd Pennaeth Pro Bono ac Addysg Gyfreithiol Glinigol, yr Athro Julie Price, "Rwyf wrth fy modd yn gweld Betsy a Phrosiect Wcráin Cymru yn cael eu cydnabod yng ngwobrau Pro Bono LawWorks eleni. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud yn ein huned Pro Bono. Felly mae gweld hyd yn oed ffracsiwn ohono yn cael ei gydnabod gan elusen mor bwysig yn wych."

Rhannu’r stori hon