Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Lleoliad yn dathlu llwyddiant myfyrwyr

3 Mai 2023

3 student placement award winners, Shannon, Ella and Zak  holding trophies and certificates
L - R, Shannon, Ella, Zak

Cynhaliwyd Gwobrau Lleoliadau Israddedig Ysgol Busnes Caerdydd ar 16 Mawrth 2023, i ddathlu’r effaith enfawr y mae ein myfyrwyr yn ei chael ar leoliad.

Roedd bwrlwm gwirioneddol yn yr ystafell yn ystod y seremoni wobrwyo ymhlith myfyrwyr a oedd yn dychwelyd o’u lleoliad, staff yr ysgol busnes, a noddwyr ein gwobrau – Tata Steel, BIC-Innovation, ac ICAEW .

Roedd y gwobrau yn gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniadau eithriadol ein myfyrwyr at fusnesau ledled Cymru, gweddill y DU, ac yn fyd-eang. Mae lleoliadau hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi hwb i'w hyfforddiant proffesiynol a sefyll allan o'r dorf ar ôl graddio.

“Mae ystod a safon y gwaith mae ein myfyrwyr wedi'i gyflawni tra ar leoliadau’n wirioneddol anhygoel ac rydym mor falch o'u cyflawniadau. Roedd yn wych cael cydnabod y llwyddiant hwn yng nghwmni’r myfyrwyr, y staff, a noddwyr ein gwobrau.”
Alex Hicks Placement Manager

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr buddugol:

  • Enillodd Shannon Heal ‘Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn’ am ei blwyddyn ar leoliad gydag Enterprise
  • Enillodd Ella Milner ‘Intern y Flwyddyn’ am ei lleoliad gwaith integredig gyda Delio
  • Enillodd Zak Wilson ‘Cyfraniad Gorau Myfyriwr at Gyflogwr Bach i Ganolig’ am ei flwyddyn ar leoliad gyda Blackwood Engineering

“Ar ran Ysgol Busnes Caerdydd, fe hoffwn i longyfarch Shannon, Ella a Zak ar eu henwebiadau a'u cyflawniadau yn y gystadleuaeth eleni. Mae’n wych gallu dathlu llwyddiant ein myfyrwyr a chydnabod yr effaith y maent yn ei chael ar y sefydliad tra ar eu lleoliad.”
Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Dywedodd Shannon Heal, a enillodd Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn:

“Roedd noson wobrwyo’r lleoliadau yn wych! Roedd yn wych dod at ein gilydd a dathlu gyda myfyrwyr eraill ar leoliad yn ogystal â staff yr ysgol fusnes a chyflogwyr noddi. Roedd ennill Gwobr Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn yn wych, ac roedd yn foddhaus iawn derbyn cydnabyddiaeth am fy ngwaith caled yn ystod fy mlwyddyn ar leoliad. Diolch enfawr i Alex a Nick am drefnu'r noson ac i Tata Steel am noddi fy ngwobr.

Mae fy lleoliad wedi rhoi amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau i mi sydd wedi bod yn hynod fuddiol yn fy natblygiad. Byddwn yn argymell lleoliad 100% i fyfyrwyr eraill. Rwy’n berson hollol wahanol bellach ers dechrau’r lleoliad.”

A photo of Shannon smiling at camera
Shannon

Dywedodd Ella Milner, enillydd Intern y Flwyddyn:

"Nid oes amheuaeth bod fy lleoliad wedi gwella fy natblygiad proffesiynol a phersonol yn sylweddol. Yn broffesiynol, mae gen i bellach set eang o sgiliau newydd y byddaf yn eu defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol, fel sut i ddadansoddi dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol a defnyddio meddalwedd hanfodol fel WordPress a HubSpot. Mae fy natblygiad personol wedi bod yn arwyddocaol: does dim amheuaeth fy mod yn fwy hyderus ynof fi fy hun ac mae gen i sgiliau arwain gwell yn sgîl fy lleoliad.

Am y rhesymau hyn, rydw i’n awgrymu’n gryf eich bod yn bachu ar y cyfle i wneud blwyddyn ar leoliad. Rwy'n credu ei fod yn rhoi mantais wirioneddol i chi o ran cychwyn eich gyrfa, gan eich galluogi i roi theori eich gradd ar waith yn y byd go iawn. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar i Delio ac Ysgol Busnes Caerdydd am roi'r cyfle hwn i mi — diolch!”

Ella
Ella

Dywedodd Zak Wilson, enillydd Y Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i Gyflogwyr Bach a Chanolig (BBaChau):

“Roedd cael fy nghydnabod am fy llwyddiannau yn y gwobrau yn brofiad arbennig. Roedd y seremoni yn wych ac roedd rhannu'r profiad gyda chyfoedion yn creu ymdeimlad gwych o gymuned ac yn hyrwyddo cydweithio pellach.

Byddwn yn argymell blwyddyn ar leoliad gan eu bod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol mewn amgylchedd byd go iawn. Maent yn rhoi cyfle gwych i feithrin perthnasoedd proffesiynol, rhwydweithio, a gwneud cysylltiadau â’r byd diwydiant, a gall y rhain fod yn fuddiol o ran rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.”

Zak
Zak

Mae’r opsiwn ar gael i israddedigion Ysgol Busnes Caerdydd dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol wrth astudio ar gyfer eu gradd. Mae Rheolaeth Busnes (BSc) hefyd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gwblhau lleoliad integredig yn semester gwanwyn eu hail flwyddyn.

Mae gan yr ysgol fusnes 146 o fyfyrwyr allan ar leoliad yn 2022/23 a rhagwelir y bydd y niferoedd hyn yn uwch fyth yn 2023/24

Cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig.

Rhannu’r stori hon