Ewch i’r prif gynnwys

Radicals and Realists: Canllaw hanfodol i bleidiau gwleidyddol Gwyddelig i'w lansio yn nigwyddiad y Brifysgol

25 Ebrill 2023

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r cyhoeddwyr Gwasg Academaidd Cymru yn cynnal lansiad cyhoeddus ar gyfer llyfr newydd sy’n rhoi “cyflwyniad hanfodol” i bleidiau gwleidyddol Iwerddon.

Yn aml yn cael ei hanwybyddu yng Nghymru, mae Iwerddon yn cynnig cyd-destun hynod ddiddorol lle mae set arbennig o bleidiau gwleidyddol yn bodoli am resymau hanesyddol clir, yn cydweithredu neu’n cystadlu yn dibynnu ar eu nodau strategol, yn aml gyda chanlyniadau dramatig.

Mae Radicals and Realists gan Lila Haines, a gyhoeddwyd gan Wasg Academaidd Cymru, yn ymdrin â hanes deuddeg o bleidiau gwleidyddol yr ynys, gan adrodd yn fras hanes gwleidyddol y wlad drwyddynt.

Yn ogystal â’r pleidiau cenedlaetholgar a gweriniaethol sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth yn y Weriniaeth, mae Lila Haines hefyd yn darparu cyflwyniad hanfodol i bleidiau o’r traddodiad unoliaethol, yn ogystal â’r pleidiau sy’n cynrychioli’r mudiadau llafur, amgylcheddol a thraws-gymunedol, gogledd a de. Mae dewisiadau strategol y dyfodol a ffawd etholiadol diweddar y pleidiau hyn i gyd yn cael eu hystyried gan Lila Haines yn ei llyfr arloesol a bydd hefyd yn destun dadl yn y digwyddiad.

Addewir noson hynod ddiddorol o drafod gwleidyddol gyda’r awdur Gwyddelig o Gaerdydd, a fydd yn sgwrsio â Dr Thomas Leahy a Dr Giada Lagana o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar 16 Mai yn Ystafelloedd Pwyllgor Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.

Mae Dr Thomas Leahy, darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Iwerddon a Phrydain ym Mhrifysgol Caerdydd ac awdur The Intelligence War Against the IRA, wedi argymell y llyfr newydd gan Lila Haines, gan ddweud:

“Mae Radicals and Realists yn llyfr trawiadol gan Lila Haines, sy’n cynnig dadansoddiad o ddeuddeg plaid wleidyddol wahanol yn Iwerddon ac yn archwilio sut maen nhw wedi esblygu eu strategaethau dros y blynyddoedd ers y Rhaniad ac mewn rhai achosion cyn hynny.

“Byddwn yn argymell y llyfr yn fawr i fyfyrwyr yn arbennig, gyda’r lansiad bendant o fod o fudd i ymchwilwyr, academyddion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth ein hynys a’n gwlad gyfagos.”

Mae croeso i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac aelodau'r cyhoedd gofrestru ar gyfer y digwyddiad a mwynhau lluniaeth am ddim. Gallwch gofrestru drwy glicio'r ddolen hon.

Rhannu’r stori hon