Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Sarah Beechey: Wedi’i henwebu deirgwaith ar gyfer un o wobrau’r Nursing Times

4 Ebrill 2023

Sarah representing the Skills Development Service

Dewch i adnabod myfyriwr blwyddyn olaf gradd nyrsio sydd wedi cyrraedd rhestri fer tri chategori yng nghystadleuaeth 2023 y Student Nursing Times Awards.

Rai wythnosau yn ôl, cafodd Sarah, myfyriwr nyrsio yn ei blwyddyn olaf, neges ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn (Nyrsio i Oedolion) The Student Nursing Times. Ychydig wedyn, daeth dwy neges arall i’w hysbysu ei bod wedi cyrraedd rhestri fer dwy wobr arall, Cyfraniad Eithriadol at Faterion Myfyrwyr a Myfyriwr Nyrsio Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn. Yn ogystal â bod ymhlith yr ychydig sydd wedi’u henwebu ar gyfer mwy nag un wobr, hi yw’r unig un yng Nghymru i gael ei henwebu. Ddychmygodd erioed y byddai hyn yn digwydd, ac mae'n ddiolchgar i'w chydweithiwr am benderfynu i'w henwebu. Wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau nesaf y gwobrau, mae’n trafod ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn rhoi cip ar ei phrofiad yn fyfyriwr nyrsio.

Chymerodd Sarah mo’r llwybr arferol i nyrsio - ar ôl gadael yr ysgol heb dystysgrif Safon Uwch, bu'n weithiwr fferyllfa gan gredu na fyddai hi byth yn astudio mewn prifysgol. Trwy gefnogaeth ei gŵr a chwrs mynediad yn ei choleg lleol, fodd bynnag, gallai ofyn am gwrs Nyrsio i Oedolion yn fyfyriwr hŷn a gwireddu ei breuddwyd gydol oes o fod yn nyrs. Ar ôl dechrau astudio ar gyfer ei gradd, manteisiodd i’r eithaf ar y cyfleoedd roedd y Brifysgol yn eu cynnig megis bod yn fentor o fyfyriwr ac yn ymgynghorydd mentora, yn hyfforddwr cyd-fyfyrwyr dros Wasanaeth y Datblygu Medrau, yn gynrychiolydd myfyrwyr ac yn aelod o bwyllgorau ac enwi ond ychydig. Mae llawer o’r gwaith wnaiff hi ochr yn ochr â’i hastudiaethau yn helpu i wella sefyllfa staff a chleifion yn y wardiau yn ogystal â gwella byd myfyrwyr blaenorol a phresennol yn y Brifysgol.

Gan edrych yn ôl ar ei thair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Sarah yn dweud bod rhai o’r myfyrwyr eraill yn arbennig o gefnogol, yn arbennig Alice, Kristiina a Leigh a oedd yn gallu gweld twf yn ei hyder a’i helpu i ddatblygu’n llawn. Ar ben hynny, mae’n cofio ei phrofiad o lunio traethawd hir wrth fwrw cyfnod allanol ac ymbaratoi ar gyfer gorchwylion ymestynnol y flwyddyn olaf. “Roedd yn arbennig o anodd cwblhau'r traethawd hir dros y Nadolig,” meddai. “Roeddwn i wedi bwriadu cyflawni llawer o waith ond daeth Covid arnaf am y tro cyntaf! A minnau’n sâl ynghyd â rhai pethau annisgwyl eraill, aeth amserlen fy nhraethawd ar chwâl ac roeddwn i’n teimlo ar ei hôl hi, yn enwedig am fod cynllunio’n bwysig imi.” Newidiodd ei hagwedd o ran y traethawd hir pan welodd ei fod yn ddarn ymestynnol i bob myfyriwr ac, er bod cynllunio’n bwysig, efallai na fydd popeth yn digwydd yn ôl y disgwyl bob amser gan fynnu ichi ailosod, ailgyfeirio a gwneud eich gorau i gadw at y trywydd iawn. “Rhaid cadw’r ddysgl yn wastad rhwng eich gwaith a’ch lles bob amser – mae’n gwrs anodd a dyma oes anodd i fod yn nyrs ynddi er bod nyrsio’n rhoi mwy o foddhad nag erioed. Rhaid ichi ddod o hyd i ffordd o ymdopi â'r dyddiau anodd – mae hynny'n hanfodol.”

Hoffai Sarah gynghori’r rhai sydd newydd ddechrau cwrs gradd nyrsio i fanteisio ar y cyfleoedd y gall y Brifysgol eu cynnig ac elwa gymaint ag y bo modd ar y profiad. Mae hi’n annog pobl i roi cynnig ar bethau newydd a gweld yr hyn sy’n agos at eu calon trwy brofiad. Un peth pwysig y bydd myfyrwyr yn ei ddysgu yn y dosbarth ac yn yr ysbyty fel ei gilydd yw gwerthuso beirniadol – ystyried pob elfen o ddadl cyn dod i benderfyniad – ac mae’n bwysig defnyddio hynny ym mhob rhan o’ch bywyd fel y gallwch chi wybod beth sydd o les ichi a charu’r hyn rydych chi’n ei wneud.

Pob lwc i Sarah yn ystod cam nesaf cystadleuaeth y Student Nursing Times Awards. I’w chefnogi a’i chalonogi’n uniongyrchol, mae modd dod o hyd iddi trwy Twitter @Sarahjbearbanan.

Rhannu’r stori hon