Ewch i’r prif gynnwys

Seminar ym Mrwsel i nodi 50 mlynedd o Iwerddon yn yr UE

28 Mawrth 2023

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cyd-gynnal seminar ym Mrwsel i nodi 50 mlynedd o aelodaeth Iwerddon o’r UE, yn cynnwys trafodaeth gyda chyn-lysgennad Iwerddon i’r DG a’r Unol Daleithiau.

Ymunodd Gweriniaeth Iwerddon â'r EEC gynt ym 1973, ac roedd aelodaeth ddilynol o'r bloc yn sail i drawsnewidiad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y wladwriaeth. Roedd aelodaeth y DG yn golygu bod yr ynys gyfan yn yr UE tan broses Brexit, ac mae goblygiadau hyn yn parhau i fod yn bwnc llosg ynghylch dyfodol Gogledd Iwerddon.

Ar 25 Mai, bydd y materion hyn yn cael eu harchwilio yn y seminar a drefnwyd gan Gymdeithas Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes Iwerddon (IACES); Cymdeithas Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes y Brifysgol (UACES); Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.

Bydd gwesteion yn clywed gan banel trafod a gadeirir gan Hedydd Phylip ac yn cynnwys Dr Giada Lagana, y ddau o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Yn ymuno â nhw bydd tri llais arwyddocaol arall ar hanes a gwleidyddiaeth Iwerddon ac Ewrop;

Yr Athro Daniel Mulhall oedd llysgennad Iwerddon i’r DG o 2013 i 2017, cyfnod a oedd yn cynnwys y refferendwm ar ymadael â’r UE, ac yn ddiweddarach i’r Unol Daleithiau, yn ogystal ag amrywiaeth o swyddi Ewropeaidd a rhyngwladol eraill yn ystod ei yrfa 44 mlynedd yn yr Adran Materion Tramor.

Mae Dr Michael Holmes yn Athro Cyswllt Gwyddor Wleidyddol yn ESPOL, yn arbenigwr ar effaith integreiddio Ewropeaidd ar bleidiau gwleidyddol, ac yn gyd-awdur Cenedlaetholdeb mewn Rhyngwladoliaeth: Perthynas Iwerddon â'r Undeb Ewropeaidd (Palgrave McMillan).

Yn olaf, mae Richard Corbett yn gyn-arweinydd Plaid Lafur Senedd Ewrop (DG), ac yn un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol yng ngwleidyddiaeth plaid Lafur yr UE yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, ac yn un olaf.

Gyda’r berthynas rhwng Cymru ac ynys Iwerddon yn parhau o ddiddordeb cynyddol, bydd y seminar hefyd yn gyfle i barhau i ddatblygu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr ac academyddion.

Gallwch gofrestru i fynychu'r seminar ym Mrwsel trwy UACES drwy glicio'r ddolen hon.

Rhannu’r stori hon