Ewch i’r prif gynnwys

Academydd yn rhannu arbenigedd gydag Adolygiad Ffyrdd Cymru

21 Chwefror 2023

A road in Wales in the countryside

Mae’r Athro Andrew Potter o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn rhan o banel ar gyfer Adolygiad Ffyrdd Cymru, polisi arloesol a oedd yn ailasesu cynlluniau adeiladu ffyrdd yn erbyn cyfres o brofion llym ar eu heffaith ar argyfwng yr hinsawdd.

Ar ôl 17 mis o ddadansoddi, cyfarfodydd ac ymweliadau safle, dychwelodd y panel, a oedd yn cynnwys wyth aelod, ei ganfyddiadau. Cyhoeddwyd yr adroddiad ddydd Mawrth 14 Chwefror pan roddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, araith yn y Senedd.

Mae’r adroddiad yn dweud y dylai ffocws adeiladu ffyrdd fod ar leihau allyriadau carbon, nid cynyddu capasiti ffyrdd, cynyddu allyriadau nac effeithio’n andwyol ar safleoedd ecolegol werthfawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi 'ystyried' cyngor y panel yn ofalus ac y bydd hyn yn llywio ei Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol (NDTP).

Y ddadl ganolog a gyflwynodd y panel yw bod angen meddwl yn wahanol am ddelio â thagfeydd. Mae’n dweud bod traffig ar ein ffyrdd wedi cynyddu a’r ymateb fel arfer yw adeiladu mwy o ffyrdd. Mae hyn wedi annog mwy o deithiau mewn car ac wedi gwaethygu traffig, gan gyfrannu at fwy o lygredd aer.

Mae hon yn duedd a gydnabyddir yn rhyngwladol o'r enw 'galw a achosir'. Mae adroddiad y panel yn dweud na ddylai cynlluniau sy'n creu capasiti ffyrdd ychwanegol ar gyfer ceir gael eu cefnogi. Yn hytrach, maent yn argymell y dylid rhoi mwy o sylw i gynlluniau sy’n canolbwyntio ar reoli galw, ynghyd â gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Maen nhw’n dweud: “bydd hyn yn helpu i leihau traffig nad yw’n hanfodol a sicrhau bod capasiti ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd hanfodol gan gynnwys cludwyr nwyddau”.

Dywedodd yr Athro Andrew Potter:

“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r Adolygiad Ffyrdd, ac yn wych gweld sut mae Llywodraeth Cymru wedi ei gofleidio wrth lunio eu polisi ffyrdd yn y dyfodol. Bydd y polisi newydd yn trawsnewid sut y caiff y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru ei ddatblygu wrth symud ymlaen. Mae fy ffocws penodol wedi bod ar oblygiadau cludo nwyddau a logisteg yr adroddiad, agwedd sy’n cael ei hanwybyddu’n aml mewn polisi trafnidiaeth er gwaethaf y ffaith fy mod yn ddefnyddwyr mawr o’r rhwydwaith ffyrdd.”

Yr Athro Andrew Potter Reader in Logistics and Transport, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Fel rhan o'r cyhoeddiad, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cyhoeddi Cynllun Cludo Nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rhagor am Adolygiad Ffyrdd Cymru.

Rhannu’r stori hon