Ewch i’r prif gynnwys

Bydd myfyriwr doethurol yn cystadlu yng nghystadleuaeth STEM for BRITAIN

20 Chwefror 2023

Portread o ddyn ifanc yn gwisgo sbectol, crys glas tywyll a chrys-t llwyd. Y tu ôl iddo mae bwrdd gwyn lle mae hafaliadau mathemategol wedi'u hysgrifennu mewn inc du.
Dywed Tim y bydd STEM for BRITAIN yn gyfle i arddangos ei waith ar IVF a chodi proffil mathemateg ddiwydiannol.

Bydd ymgeisydd PhD yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei ymchwil gerbron ASau mewn cystadleuaeth wyddonol ac arddangosfa bosteri o bwys yn San Steffan.

Mae Tim Ostler, sydd ar hyn o bryd wrthi’n gorffen ei draethawd ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg, wedi cael ei ddewis i gystadlu yn rownd derfynol STEM for BRITAIN 2023 yn San Steffan. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain ym mis Mawrth.

Symudodd Tim, sy’n 24 oed ac o Southampton, i Gaerdydd ar gyfer ei radd israddedig yn 2016. Er ei fod eisiau dilyn gyrfa feddygol yn wreiddiol, dechreuodd ymddiddori mewn mathemateg gymhwysol gan ddechrau PhD ym maes bioleg fathemategol.

Dyma a ddywedodd: "Rwy’n llawn cyffro wrth feddwl am gymryd rhan yng nghystadleuaeth STEM for BRITAIN . Dyma gyfle imi ddangos y cyfan rwy wedi’i gyflawni yn ystod fy astudiaethau yma yng Nghaerdydd."

Mae ymchwil Tim, a ariennir ar y cyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth 2 (KESS 2) a Chlinig Menywod Llundain (LWC), yn defnyddio mathemateg a yrrir gan ddata i fodelu ac optimeiddio tair agwedd allweddol ar Ffrwythloni In Vitro (IVF) – y driniaeth sylfaenol ar gyfer anffrwythlondeb yn fyd-eang.

Mae’r prosiect yn rhan o ymchwil ehangach ar y cyd ar fodelu IVF rhwng Dr Thomas Woolley a Dr Katerina Kaouri yn yr Ysgol Mathemateg, a’r Athro Karl Swann yn Ysgol y Biowyddorau. Ynghyd â goruchwyliwr diwydiannol yn LWC, y pedwar hyn fydd tîm goruchwylio PhD Tim.

"Mae datblygiad IVF wedi arafu gan nad yw’r cyfraddau llwyddo wedi cynyddu’n fawr ers 2010, felly mae goblygiadau cymdeithasol enfawr ynglŷn â fy PhD sy’n ymwneud â chymhwyso mathemateg i rai o’r heriau y mae clinigau ffrwythlondeb yn eu hwynebu. Er bod llawer o bobl yn taflu data mawr at y problemau, nid yw’r canlyniadau bob amser yn cael eu deall yn dda. Ynghyd ag arbenigwyr yng Nghlinig Menywod Llundain, rydyn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu atebion posibl."

Timothy Ostler

"Rydyn ni wedi modelu’r broses rhewi a dadmer ym maes Trosglwyddo Embryonau Rhewedig i ddeall yn well yr heriau ymarferol ynghlwm wrth bacio a storio wyau ac embryonau. Ar ben hynny, rydyn ni wedi datblygu dulliau i dynnu gwybodaeth o ddelweddau am iechyd yr wyau a'r embryonau. Yn drydydd, rydyn ni wedi datblygu model dysgu peirianyddol sy’n adnabod nodweddion delweddau embryonau a fydd hwyrach yn rhagweld beichiogrwydd."

"Mae gan IVF rôl bwysig iawn yn y gymdeithas, felly rwy’n edrych ymlaen at ddweud wrth bawb yn STEM for Britain am y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud."

Mae STEM for BRITAIN, o dan gadeiryddiaeth Stephen Metcalfe AS a gofal y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol, wedi’i gynnal ers 1997 a’i nod yw helpu aelodau’r ddau Dŷ yn San Steffan i ddeall y gwaith ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion y DU gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Dyma a ddywedodd Dr Katerina Kaouri, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae'n eithaf anarferol i fyfyrwyr ddilyn astudiaeth ddoethurol yn syth ar ôl cwblhau eu gradd israddedig. Mae Tim wedi cyflawni hyn ond ar ben hynny mae wedi ffynnu, yn enwedig o dan amgylchiadau anodd drwy gydol pandemig Covid-19."

"Yn goron ar ei lwyddiant academaidd, mae'n addas iawn ei fod, wrth iddo ysgrifennu’r PhD yn ei flwyddyn olaf, yn siarad ag ASau, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill am ei waith ymchwil pwysig."

Dr Katerina Kaouri Lecturer in Applied Mathematics

"Rwy’n dymuno pob lwc iddo!"

Rhoddir gwobrau am y posteri a gyflwynir ym mhob disgyblaeth sy'n cyfleu orau gwyddoniaeth, peirianneg neu fathemateg i gynulleidfa leyg.

Dyfernir Medal San Steffan i’r enillydd cyffredinol er cof am y diweddar Dr Eric Wharton, a wnaeth gymaint i greu’r gystadleuaeth yn ddigwyddiad rheolaidd yn y calendr Seneddol.

Ychwanegodd Dr Thomas Woolley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Fe wnes i gymryd rhan mewn STEM for BRITAIN yn ystod fy PhD ac yn ei gofio'n dda.

"Yn ogystal â chyflwyno ymchwil arloesol gerbron yr ASau, mae’r gystadleuaeth yn gyfle gwych i rwydweithio gydag ystod eang o sefydliadau a sefydliadau gwyddonol, peirianneg a mathemateg pwysig sy’n cefnogi’r digwyddiad."

"Fy nghyngor i Tim yw gloywi ei gyflwyniad cyflym ar gyfer y rheini fydd yno, yn enwedig y beirniaid, a mwynhau’r diwrnod."

Dr Thomas Woolley Lecturer in Applied Mathematics

"Mae pawb yn yr Ysgol o’ch plaid chi!"

Bydd STEM for BRITAIN yn cael ei chynnal yn San Steffan ddydd Llun 6 Mawrth 2023.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig lle mae modd cydweithio'n rhyngddisgyblaethol a manteisio ar ein cysylltiadau gyda diwydiant, masnach a llywodraeth.