Ewch i’r prif gynnwys

Lansio modiwl cynllunio digidol newydd

3 Chwefror 2023

Digital image of a city

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi lansio modiwl arloesol mewn Cynllunio a Datblygu Digidol.

Bydd y modiwl yn addysgu myfyrwyr ôl-raddedig am y datblygiadau diweddaraf ym maes cynllunio digidol, gan eu harfogi ar gyfer disgwyliadau a rolau newidiol mewn cynllunio, dylunio trefol a datblygu.

Mae'r modiwl yn archwilio sut y gallwn harneisio offer digidol i ddeall dinasoedd yn well a gwella sut rydym yn cynllunio. Yn ogystal â deall yr egwyddorion, bydd myfyrwyr yn clywed gan ymarferwyr o'r llywodraeth a busnes ac yn cael tiwtorialau ymarferol gyda llwyfannau blaengar fel Vu City.

Boed ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol mewn dylunio trefol, cynllunio, eiddo tirol neu unrhyw broffesiwn amgylchedd adeiledig arall, bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y ffordd gynyddol ddigidedig a chyfoethog ei data y mae gofod trefol yn cael ei brofi a’i drefnu.

Yr Athro Peter Madden, OBE, a ddatblygodd y modiwl gan adeiladu ar ei arweinyddiaeth o Gatapwlt Dinasoedd y Dyfodol.
Meddai Dr Matthew Wargent, Darlithydd mewn Cynllunio a Datblygu Trefol ac arweinydd modiwl: “Rydym yn falch iawn o lansio ein modiwl Cynllunio a Datblygu Digidol newydd yfory. Bydd ein myfyrwyr yn archwilio sut y gallem harneisio offer digidol i ddeall lleoedd yn well a gwella sut rydym yn cynllunio ar eu cyfer.

“Bydd y cwrs ymarferol hwn yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y ffordd gynyddol ddigidol a chyfoethog ei data y mae gofodau trefol yn cael eu profi a’u trefnu. Yn ogystal â dysgu’r sgiliau digidol ymarferol y mae galw mawr amdanynt ar draws y diwydiant cynllunio, bydd ein myfyrwyr yn archwilio dadleuon beirniadol ynghylch moeseg a goblygiadau cynllunio digidol. Bydd hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i arwain system gynllunio’r dyfodol.”

Rhannu’r stori hon