Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Medicentre Caerdydd yn dathlu 30 mlynedd

14 Chwefror 2023

Alesi Anniversary 30th

Mae canolfan arloesedd ar gyfer technoleg fiolegol a meddygol ym mhrifddinas Cymru wedi cyrraedd trydydd degawd nodedig o helpu i ddatblygu rhai o fusnesau mwyaf cyffrous y DU.

Wedi’i sefydlu ym 1992, Medicentre Caerdydd oedd y deorydd busnes cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae Medicentre Caerdydd, sy’n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cynnig popeth boed yn brydlesu desgiau rhad, labordai o safon uchel ar gyfer busnesau newydd neu fusnesau sefydledig ym maes gwyddorau bywyd.

Mae wedi'i gosod ar dir Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae'n cynnig yr amgylchedd a'r gefnogaeth ymarferol i roi dechrau i arloesedd er mwyn cyrraedd y pwynt o fasnacheiddio.

Yn gartref i 13 o denantiaid, gan gynnwys Antiverse, Cedar, a Diurnal, mae'r ganolfan wedi meithrin 55 o fusnesau ers 1992, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i sicrhau llwyddiant sylweddol.

Ymhlith y rhain y mae:

  • Cwmni meddalwedd ac efelychu uwchsain wedi'i restru gan AIM, Intelligent Ultrasound, a ddechreuodd ar ffurf cwmni deillio ym Mhrifysgol Caerdydd, o dan yr enw MedaPhor;
  • Cwmni deillio Alesi Surgical, gan Brifysgol Caerdydd, a ddatblygodd Ultravision a’i fasnacheiddio, system gyntaf y byd ar gyfer dileu mwg llawfeddygol laparosgopig heb yr angen am gyfnewid nwy;
  • Cellesce, dyfeiswyr bio-broses unigryw ar gyfer ehangu organoidau dynol, arferol a chanser ar gyfer cymwysiadau gan gynnwys darganfod cyffuriau.

Meddai Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd Medicentre Caerdydd, "Mae'r arloesedd sy'n digwydd yma yn syfrdanol. Mae pob tenant yn cynnig rhywbeth newydd a’r hyn sy’n eu sbarduno yw eu bod eisiau trwsio neu wella rhywbeth er mwyn sicrhau gwell gofal iechyd ar gyfer cleifion a hybu'r economi yng Nghymru. Felly mae bod mor agos at Ysbyty Athrofaol Cymru yn fantais wirioneddol i'r rhai all elwa o'r amgylchedd clinigol a’r cyswllt ag ymarferwyr."

Mae galw mawr am Ganolfan Medicentre Caerdydd; mae’n cynnig lle sy’n 19,050 troedfedd sgwâr, ac ynddo labordai modern a swyddfeydd, wedi'i staffio gan dîm cymorth busnes arbenigol.

"A ninnau’n fenter ar y cyd, rydyn ni'n helpu busnesau i wneud y mwyaf o ddau brif sefydliad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd," meddai Mr Pearce-Palmer. "Mae'r adnoddau a'r rhwydweithiau y gallwn eu trosoli yn helpu busnesau i dyfu. Mae'n fraint wirioneddol gallu cefnogi busnesau wrth iddynt wneud hyn, a dilyn eu cynnydd wrth iddynt symud ymlaen o'r Medicentre - 'graddio' yw nod pennaf y broses o ddeori busnes."

Mae cwmnïau sydd wedi graddio o Medicentre Caerdydd wedi mynd ymlaen i fod â’u hadeiladau eu hunain, ac maent yn gwneud eu marc yn rhyngwladol. Mae InBio (Indoor Biotechnologies gynt) yn un enghraifft nodedig.

Dywedodd Mr Pearce-Palmer, "Fel tîm, rydym wastad yn gysylltiedig â'r busnesau sy'n pasio drwy Medicentre Caerdydd. Mae'n wych gweld eu henwau ar ochr adeiladau a darllen am y marchnadoedd newydd maen nhw nawr yn rhan ohonynt, y cynhyrchion newydd maen nhw wedi'u dylunio, a’r datblygiadau maen nhw wedi eu harloesi. Rydym yn falch o chwarae rhan yn y blynyddoedd ffurfiannol cyntaf."

Dywedodd Peter Welsh, aelod o Fwrdd Medicentre am 20 mlynedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, "Yn un o’r partneriaid a gyd- sefydlodd menter Medicentre Caerdydd, rydym wedi gweld datblygiadau enfawr o ran arloesedd ym maes y gwyddorau bywyd yng Nghymru dros y tri degawd diwethaf. Nid yn unig mae hyn yn wych i'n cenedl a'n heconomi, ond hefyd i gleifion ac ymarferwyr yn y system gofal iechyd yn y DU a thu hwnt sy'n elwa o'r datblygiadau anhygoel sy'n parhau i gael eu cynhyrchu yma. Mae Medicentre Caerdydd yn cael y clod cywir o fod y man lle bu i lawer o'r rhain ddechrau."

Rhannu’r stori hon