Ewch i’r prif gynnwys

Chwalu rhwystrau wrth i fyfyrwyr ymchwil Mathemateg Caerdydd arwain cynhadledd drochi i annog disgyblion Blwyddyn 8/9 i astudio mathemateg

7 Chwefror 2023

Pupils in year 8/9 in a maths workshop organised by Further Maths Support Programme Wales.
Pupils in year 8/9 in a maths workshop organised by Further Maths Support Programme Wales.

Yn Ionawr 2023, arweiniodd myfyrwyr ymchwil o'r Ysgol Mathemateg gynhadledd fathemateg arbennig ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 8 a 9, a drefnwyd gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru (RhGMBC).

Cafodd y disgyblion ysgol brofi ystod o weithgareddau hwyliog a throchol yn ystod eu hymweliad. Roedd y rhain yn tynnu eu sylw at hanes ac at gymwysiadau modern mathemateg yn eu bywydau.

Gwnaeth Michela Corradini, myfyriwr ymchwil, gyflwyno’r plant i bwnc llosg cryptograffeg drwy olwynion seiffr Cesar, yn ogystal â seiffrau unwyddorol, a thrwy hynny, ddangos yr holl ffyrdd rydym wedi dysgu dadgodio ac amgodio negeseuon. Dywedodd Michela: "Roeddwn i wrth fy modd yn cynnal y gweithdai. Roedd y disgyblion wedi mwynhau dadgodio negeseuon cyfrinachol, ac roedd yn anhygoel gweld yr athrawon yn cymryd rhan, hefyd!"

Dan arweiniad Michalis Panayides, arweiniodd ‘Chwarae gemau: Cyflwyniad i ddamcaniaeth gêm’ y myfyrwyr drwy ddwy ran o dair o gêm gyffredinol, gêm ‘Cyfyng-gyngor y Carcharor’, yn ogystal â gemau ailadroddus, a thrwy hynny, dynnu sylw at y strategaethau gorau a mwyaf hwyliog i'w defnyddio ym mhob achos. Dywedodd Michalis: “Rwy’n gobeithio bod y disgyblion wedi cael yr un faint o hwyl â mi. Doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor ddoeth a dyfeisgar oedd rhai o'r disgyblion hyn. Yn onest, dyma oedd un o’r profiadau gorau yn fy nhaith academaidd hyd yn hyn.”

Bu i weithdy ‘Beth yw’r tebygolrwydd?’ Matthew Howells roi cyflwyniad sylfaenol i ddamcaniaeth tebygolrwydd drwy ddefnyddio arddangosiadau ymarferol hwyliog, gan gynnwys y broblem Pen-blwydd, y loteri, a phroblem Monty Hall. Dywedodd Matthew hefyd: “Cefais amser gwych yn addysgu’r dosbarthiadau hyn. Ymgysylltodd y disgyblion i gyd yn dda iawn ac roedd eu hymatebion i ddarganfod tebygolrwydd rhai pethau, megis ennill y loteri, yn amhrisiadwy."

Cafodd disgyblion ym mlynyddoedd 8 a 9 brofiad hynod o gadarnhaol yng nghynhadledd RhGMBC wrth gael gwybod am effaith mathemateg ar eu profiadau dyddiol. Gwnaeth myfyrwyr ymchwil Prifysgol Caerdydd fwynhau rhannu eu gwybodaeth gyda’r disgyblion a hefyd elwa llawer o’r profiad o addysgu’r grwpiau ysgol.

Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru. Dechreuodd y Rhaglen yn 2010 yn Ne-orllewin Cymru ac mae wedi ehangu'n raddol i holl siroedd/rhanbarthau Cymru. Amcanion yr RhGMBC yw codi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion a'u rhieni o werth astudio mathemateg a chynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis astudio mathemateg/mathemateg bellach ar lefel AS neu Safon Uwch neu yn y brifysgol.

Rhannu’r stori hon