Pam mae myfyrio ar eich gwerthoedd cyn agor eich ceg yn arwain at berthnasoedd hapusach
7 Chwefror 2023
Mae astudiaeth newydd wedi canfod ei bod yn bosibl bod myfyrio ar werthoedd bywyd cyn dadlau amdanyn nhw yn gallu gwella parodrwydd pobl i wrando ar ei gilydd.
Athronwyr ac ieithyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a seicolegwyr ym Mhrifysgol Caerfaddon fu yng ngofal yr astudiaeth ryngddisgyblaethol.
Recriwtiodd y tîm ymchwil 303 o bobl i gymryd rhan, a rhoddwyd pob un mewn grwpiau bach. Wedyn, gofynnwyd iddyn nhw drafod rhinweddau codi ffioedd dysgu addysg. Cyn y ddadl, gofynnwyd i hanner o’r rhain ysgrifennu am y gwerthoedd bywyd yr oedden nhw’n eu hystyried yn rhai pwysig. Cafodd yr holl drafodaethau eu recordio, eu codio a'u dadansoddi.
Yn sgîl y dadansoddiad, canfuwyd bod y broses o fyfyrio ar werthoedd yn y lle cyntaf wedi helpu i ysbrydoli eu 'gostyngeiddrwydd deallusol', sef eu hymwybyddiaeth o'u ffaeledigrwydd a bod yn agored i farn pobl eraill. Dangosodd bron i draean (60.6%) o'r rheini a gymerodd ran ac a fyfyriodd ar eu gwerthoedd yn y lle cyntaf fwy o ostyngeiddrwydd o’i gymharu â'r person cyffredin na roddwyd y dasg hon iddo.
Dyma a ddywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Alessandra Tanesini, yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ein hymchwil yn dangos bod strategaethau sy'n hyrwyddo agweddau rhinweddol drwy gadarnhau gwerthoedd yn gwella gallu pobl i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Ymyrraeth yw ein rhaglen ni a hwyrach y bydd ei rhoi ar waith mewn ysgolion a phrifysgolion yn gwneud cyfraniad addysgegol pwysig hefyd i addysg myfyrwyr”.
Dyma a ddywedodd cyd-arweinydd yr astudiaeth, Dr Paul Hanel, a wnaeth yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerfaddon ond sydd bellach yn gweithio i Brifysgol Essex: “Yn aml, y neges a gawn yw ein bod ni'n byw mewn byd sydd wedi'i begynnu lle bydd cael y farn 'anghywir' am bynciau yn arwain at weiddi arnoch chi cyn ichi gael y cyfle i orffen.
“Mae’r ymchwil hon yn awgrymu bod y polareiddio wedi cael ei orbwysleisio a thrwy oedi i fyfyrio ar werthoedd personol cyn cymryd rhan yn y mathau hyn o sgyrsiau, gallai trafod â’n gilydd fod yn fwy cytûn.”
Ychwanegodd yr awdur ar y cyd, yr Athro Greg Maio, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon: “Y newyddion da sy’n deillio o’r astudiaeth hon yw nad oes yn rhaid i’r casineb sy’n digwydd ar-lein fod felly. Drwy roi’r cyfle i bobl fyfyrio ar eu gwerthoedd, gwelson ni welliant amlwg o ran y ffordd roedden nhw’n cymryd rhan yn y trafodaethau.”
“Yn y dyfodol, hoffen ni weld a yw’r math hwn o fyfyrio ynghylch gwerthoedd hefyd yn gweithio ar-lein, a hynny er mwyn annog llai o sgwrsio trahaus ymhlith defnyddwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn sicr, byddai gennym ddiddordeb mewn rhannu ein canfyddiadau â datblygwyr y cyfryngau cymdeithasol a phobl eraill.”
Mae'r gwaith hwn yn rhan o brosiect ehangach sy'n ymwneud â 'Newid Agweddau yn y Pau Cyoeddus', a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.
Cyhoeddwyd “Using self-affirmation to increase intellectual humility in debate”, yn y cyfnodolyn Royal Society Open Science.
Ariannwyd yr ymchwil gan Grant Rhif 58942 o Sefydliad John Templeton a Rhaglen Humility and Conviction in Public Life, ym Mhrifysgol Connecticut. Cyfrifoldeb yr awduron yn unig yw ei chynnwys ac nid yw o reidrwydd yn cynrychioli barn swyddogol UConn na Sefydliad John Templeton.