Ewch i’r prif gynnwys

‘Sgyrsiau gyda ffrindiau’ sut yr arweiniodd un sylw at algorithm mapio teithiau arloesol mathemategydd o Gaerdydd

3 Chwefror 2023

Map of planned route

Mae sgyrsiau gyda ffrindiau fel arfer yn ymdrin â digwyddiadau cyfoes, y tywydd, clecs o’r gwaith, neu hoff gyfres deledu newydd. Fodd bynnag, pan gafodd Dr Rhyd Lewis, Darllenydd mewn Mathemateg o Brifysgol Caerdydd un sgwrs o’r fath â’i chwaer-yng-nghyfraith, arweiniodd at algorithm mapio teithiau newydd a chyhoeddiad yn y Journal of Heuristics.

Ar ôl sylw ffwrdd â hi y byddai’n ddefnyddiol i ffonau clyfar gynllunio teithiau o hyd penodol, meddyliodd Dr Lewis pa mor fuddiol fyddai addasu meddalwedd mapio teithiau, er mwyn trefnu camau dyddiol mewn diwrnod prysur neu gynllunio taith redeg trwy ardal anghyfarwydd.

Yn rhyfedd iawn, gwelodd Dr Lewis nad oedd llawer o waith wedi’i wneud ar y pwnc. Gwelodd hefyd nad yw rhaglenni presennol poblogaidd sy’n cynllunio llwybrau yn rai awtomataidd, am fod defnyddwyr yn mewnbynnu cyfeirbwyntiau eu hunain heb gyfrifiadau awtomataidd o ran hyd penodol y daith. Roedd hyn yn ei dro yn gofyn am ymdrech gan ddefnyddwyr, cynefindra, neu ddull hen ffasiwn o brofi a methu, pan allai algorithm wneud yr ymdrech a dyfalu (neu gyfrannu) ar ran y defnyddiwr.

Mae algorithmau fel y rhain yn effeithlon ac yn arbed amser trwy gynllunio teithiau sy'n arbed ymdrech ychwanegol pan fydd pobl eisiau teithio pellter penodol. Yn ogystal ag arbed adnoddau, gellir defnyddio'r algorithm mapio teithiau hwn i leddfu pryderon diogelwch trwy beidio â rhedeg neu gerdded yn bellach nag sydd ei angen. Mae diogelwch personol yn bryder parhaus wrth ymlwybro o amgylch ardaloedd trefol, yn enwedig i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r ardaloedd, megis y rhai sy'n teithio ar gyfer busnes neu bleser neu sy'n newydd i ardal. Gallai hyn fod â chyfleoedd ar gyfer twf, megis creu teithiau mwy hygyrch i ddefnyddwyr anabl sydd eisiau arbed eu hegni, neu i ddefnyddwyr niwrowahanol a hoffai osgoi mannau gorlawn, neu ei gwneud yn bosibl i bobl osgoi llwybrau annymunol neu hyd yn oed ddilyn llwybrau deniadol.

Cyhoeddwyd y papur a ddeilliodd o hyn, ‘Finding fixed-length circuits and cycles in undirected edge-weighted graphs: an application with street networks’ a ysgrifenwyd ar y cyd â Dr Padraig Corcoran gydag awgrymiadau ar gyfer hewristeg sy'n gweithredu'n gyflym i fynd i'r afael â'r broblem, yn y Journal of Heuristics yn 2022. Mae'n pwysleisio ymrwymiad Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd i gymhwyso atebion mathemategol fel ffordd o wella ein byd modern.

Mae Dr Rhyd Lewis yn Ddarllenydd mewn Mathemateg ac mae hefyd wedi cyhoeddi ar lwybro bysiau ysgol, amserlennu chwaraeon / theatrau meddygol, yn ogystal â theori graffiau algorithmig a lliwio graffiau. Mae Dr Padraig Corcoran yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac yn rhannu diddordeb mewn damcaniaeth graffiau.

Rhannu’r stori hon