Ewch i’r prif gynnwys

Agweddau tuag at ynni gwyrdd yr effeithir arnynt gan ddadl ffracio

3 Chwefror 2023

Fracking drilling rig

Hwyrach y bydd dadl ffracio’n dylanwadu’n negyddol ar agweddau’r cyhoedd tuag at rai technolegau carbon isel newydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Canfu tîm yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol fod cefndir y dadlau a’r gwrthwynebiad i ffracio am olew a nwy yn effeithio ar allu pobl i dderbyn ynni geothermol dwfn, sef technoleg sy’n harneisio'r gwres o dan gramen y Ddaear.

Canfuwyd bod hydrogen gwyrdd, ar y llaw arall - sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio ynni gwyrdd i bweru electrolysis dŵr - wedi cael ei effeithio llai yn sgîl pryderon ynghylch ffracio oherwydd y canfyddiad ei fod yn wahanol.

Mae'r effaith, a elwir yn 'ganfyddiad sy’n gorlifo', yn golygu bod yr hyn y mae pobl yn ei gredu ar hyn o bryd am un maes yn dylanwadu ar faes cysylltiedig arall.

Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Emily Cox: “Mae ein hymchwil yn dangos bod rhai pobl yn gwneud cysylltiadau yn y fan a’r lle rhwng ffracio ac ynni geothermol dwfn.

“Soniodd rhai o’r bobl a gymerodd ran yn ein hastudiaeth am ffracio o fewn ychydig funudau cyntaf y drafodaeth am ynni geothermol dwfn. Pan ysgogwyd pobl eraill i feddwl am ffracio, gan sbarduno’r cysylltiadau sylfaenol, gwelson ni fod cyfran y gorlif negyddol yn cynyddu i hanner sampl yr arolwg, bron iawn.

“Gan fod hydrogen gwyrdd yn cael ei ystyried yn wahanol i ffracio, roedd effeithiau’r gorlifo’n llai cryf. Ond, pan gafodd 14% o’r rheini a ymatebodd i’n harolwg eu hannog i ystyried ffracio, rhoddon nhw farn fwy cadarnhaol am hydrogen gwyrdd oherwydd y canfyddiad ei fod yn wahanol i ffracio.”

Cynhaliodd yr ymchwilwyr arolwg o’r DU sy’n gynrychioliadol o’r wlad (927 o gyfranogwyr) a dau grŵp ffocws i ganfod a fyddai ymateb cryf y cyhoedd yn erbyn ffracio’n effeithio ar ganfyddiadau’r cyhoedd o dechnolegau eraill, gan effeithio ar eu siawns o gael eu defnyddio’n llwyddiannus.

Gan ganolbwyntio ar ddwy o'r technolegau hynny - ynni geothermol dwfn a hydrogen gwyrdd - mae'r canlyniadau'n awgrymu bod technegau y canfyddir eu bod yn debyg i ffracio, yn enwedig y rheiny sydd ag elfen drilio neu chwistrellu tanddaearol, yn debygol o fod fwyaf agored i effeithiau gorlifo canfyddiad ym maes ffracio.

Ychwanegodd Dr Cox: “Gall cefnogaeth neu wrthwynebiad y cyhoedd i dechnolegau fod yn hollbwysig o ran a fydd y rhain yn cael eu defnyddio neu beidio. Mae ein gwaith yn dangos y gallai canfyddiadau sy’n gorlifo o ffracio arwain at ganfyddiadau negyddol eang o ynni geothermol dwfn a bod hyn wedi dylanwadu o bosibl ar yr amodau y byddai disgwyl i’r dechnoleg eu bodloni, cyn iddi gael ei derbyn gan y cyhoedd.

“Mae angen rhagor o ymchwil nawr i ddeall yr agweddau gwahanol ar ganfyddiadau sy’n gorlifo, a sut a pham mae gorlifo’n digwydd mewn cyd-destunau penodol.”

Cyhoeddwyd y papur, Perception spillover from fracking onto public perceptions of novel energy technologies, yn y cyfnodolyn Nature Energy.