Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddi Cyllid Cymru: Swydd ar gael

2 Chwefror 2023

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil newydd i ymuno â thîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Mae tîm Dadansoddi Cyllid Cymru’n rhan o’r Ganolfan ehangach ac yn ymchwilio i gyllid cyhoeddus, trethiant, gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru.

Ers iddo gael ei sefydlu yn 2018, mae'r tîm wedi parhau i ehangu a datblygu ei arbenigedd. Mae wedi dod yn sylwebydd dibynadwy ac awdurdodol ar ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chyllideb yng Nghymru a’r DG, trethiant a gwariant datganoledig a heb eu datganoli, gan gynnwys materion cyfansoddiadol.

Er bod angen sgiliau ymchwil feintiol cryf ar gyfer y swydd hon, bydd hyfforddiant ffurfiol ac ad hoc yn cael ei roi. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn dod yn rhan o amgylchedd cyfeillgar a chefnogol Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n cynnig gweithle delfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn dadansoddi ac astudio gwleidyddiaeth Cymru.

Swydd Gradd 5 (£28k i £33k) yw hon tan fis Ebrill 2024 yn y lle cyntaf.

Mae'r manylion llawn a chanllawiau ymgeisio ar gael yma.

Rhannu’r stori hon