Ewch i’r prif gynnwys

Dyma Fakid: “ni waeth pwy ydych, mae cartref i bawb yma.”

1 Chwefror 2023

A photo of a student with brown short hair and glasses.
Fakid Labib

Dyma Fakid Labib, sy'n astudio ar gyfer Rheoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) (BSc). Soniodd Fakid wrthym am ei brofiad o fod yn fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd.

C. Beth rydych wedi’i fwynhau fwyaf wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Fakid: Rwyf wedi mwynhau'r campws bywiog, yr addysgu, y darlithoedd a'r garfan o fyfyrwyr. Mae'r staff addysgu’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod y pynciau’n ddiddorol ac yn hwyl. Rwyf wedi mwynhau'r holl fodiwlau yn fawr, ac rwyf wedi dod i adnabod fi fy hun yn well.

C. Beth oedd eich rhesymau dros astudio eich pwnc?

Fakid: Dewisais Reoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) gan fod yr ochr gweithrediadau i fyd busnes o ddiddordeb i mi. Rwy'n awyddus i wella fy nealltwriaeth o brosesau logisteg cymhleth a sut mae cynhyrchion yn cyrraedd y defnyddiwr terfynol.

C. Pa sgiliau rydych wedi’u datblygu wrth astudio ar gyfer eich gradd?

Fakid: Rwyf wedi datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau rheoli prosiect, rheoli pobl, arwain, rheoli gwrthdaro, amldasgio a myfyrio.

Beth rydych yn ei hoffi am yr Ysgol Busnes?

Fakid: Rwy’n hoffi cymaint o bethau am yr Ysgol Busnes – yr athrawon, y modiwlau, strwythur y modiwlau a’r cymorth sydd ar gael gan y staff. Yn bwysicaf oll, rwy'n hoffi'r Parth Cyfleoedd. Mae'r Parth Cyfleoedd yn helpu myfyrwyr i chwilio a chynnig am leoliadau gwaith, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd i gael profiad gwaith. Mae cyfleoedd ar gael hefyd i siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd.

C. A ydych wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wrth astudio ar gyfer eich gradd?

Fakid: Yn ogystal â chwarae rhan mewn cymdeithasau, rwyf wedi dilyn rhaglen Ieithoedd i Bawb, a roddodd gyfle anhygoel i mi ddysgu iaith newydd am ddim ochr yn ochr ag astudio.

A ydych wedi ymgymryd â lleoliad gwaith yn rhan o’ch cwrs?

Fakid: Ar hyn o bryd rydw i’n gwneud fy mlwyddyn ar leoliad gwaith fel Intern Cadwyn Gyflenwi yn GSK. Mae'n hanfodol iawn o safbwynt cael profiad gwaith go iawn a pherthnasol. Cyn ymgymryd â’r lleoliad gwaith, nid oedd gennyf unrhyw brofiad gwaith perthnasol, ond mae wedi dangos i mi sut mae’r theorïau sy’n cael eu haddysgu yn yr Ysgol Busnes yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn.

C. Beth y byddech yn ei ddweud wrth ddarpar fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd?

Fakid: Byddwn yn dweud bod Prifysgol Caerdydd yn lle croesawgar a chyfeillgar iawn sy’n cynnig tîm addysgu, cymuned a chyfleoedd sy’n amrywio’n fawr. Ni waeth pwy ydych, mae cartref i bawb yma, ac mae pob math o gymorth ar gael i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau posibl yn y Brifysgol. Mae cymorth cynllunio gyrfa ar gael hefyd i’r rhai nad ydynt yn gwybod beth maent am ei wneud yn y dyfodol.

Diolch i Fakid am roi o'i amser i sôn wrthym ei brofiad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am Rheoli Busnes (Logisteg a Gweithrediadau) (BSc).

Rhannu’r stori hon