Ewch i’r prif gynnwys

Cynrychiolydd Catalwnia yn ymweld â Chanolfan Llywodraethiant Cymru

31 Ionawr 2023

Ymwelodd swyddog blaenllaw o Gatalwnia â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn ystod ei ymweliad cyntaf â’r genedl.

Cafodd Mr Francesc Claret, Cynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia i’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon, gyflwyniadau gan Richard Wyn Jones, Ed Poole a James Griffiths yn ymdrin â llu o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i’r ddwy wlad ymreolaethol.

Rhannwyd hanes datganoli, gwaith rhaglen Dadansoddi Cyllid Cymru, a data cymharol o Astudiaeth Etholiadau Cymru gyda'r Cynrychiolydd a'i dîm.

Rhannu’r stori hon