Ewch i’r prif gynnwys

LEGO yn y labordy: creu blociau adeiladu bywyd

31 Ionawr 2023

Dr Christopher Thomas, Dr Oliver Castell and Dr Sion Coulman with their bioprinter built entirely from LEGO

Mae bioargraffydd 3D wedi cael ei adeiladu’n gyfan gwbl o LEGO gan dîm o Brifysgol Caerdydd ar gyfer creu modelau meinwe fforddiadwy, y gellir eu hadeiladu i raddfa, ac y gellir eu hatgynhyrchu.

Syniad gan Dr Christopher Thomas, Dr Oliver Castell a Dr Sion Coulman o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yw hwn, a nhw wnaeth ddylunio ac adeiladu’r argraffydd hefyd. Mae'r argraffydd yn gallu argraffu deunydd biolegol – megis celloedd croen.

Yn wahanol i lawer o ymchwil sydd fel arfer yn diogelu eiddo deallusol, mae tîm Caerdydd wedi amlinellu'r union fethodoleg a ddefnyddiwyd i greu ac adeiladu'r ddyfais yn y gobaith y bydd labordai eraill yn gallu defnyddio eu gwaith a’i addasu a’i wella yn ôl yr angen.

Dywedodd Dr Coulman: "Ein bwriad oedd creu bioagraffydd y gallai unrhyw un ei adeiladu, gydag ychydig iawn o arian, a dyna'n union rydyn ni wedi'i gyflawni. Mae ein papur yn manylu yn fwriadol ar bob elfen o'r gwaith adeiladu, gan gynnwys y rhannau LEGO penodol a ddefnyddir, yn ogystal â'r hyn y mae’n gallu ei wneud, fel y gellir ei efelychu'n hawdd mewn unrhyw labordy, unrhyw le yn y byd."

Mae angen samplau o feinwe dynol ar gyfer ymchwil biofeddygol i helpu i wella ein dealltwriaeth wyddonol o filoedd o gyflyrau meddygol yn ogystal ag ar gyfer datblygu triniaethau effeithiol.

Er bod bioargraffu 3D yn cynnig gobaith ar gyfer datblygu'r samplau hyn, gall fod yn afresymol o ddrud, ac yn aml nid yw dyfeisiau oddi ar y silff yn ateb y galw yn y labordy.

Mae tîm Caerdydd yn gobeithio y gallai eu bioargraffydd LEGO 3D gynnig ateb technegol fedrus, gwyddonol gadarn, cost isel.

Gan ddefnyddio meinwe'r croen yn fecanwaith i ddangos gallu'r bioargraffydd, maent wedi llwyddo i argraffu diferion hydrogel sy'n cynnwys celloedd. Maent nawr yn y broses o ail-greu pensaernïaeth tri dimensiwn croen.

Meddai Dr Thomas: "Ar adeg pan mae’r angen am gydweithio ym maes ymchwil yn fwy nag erioed, a chyllid ymchwil mor brin, rydym yn falch o rannu darn o offer mynediad agored, hygyrch a fforddiadwy y mae mawr ei angen, sy’n opsiwn gwahanol i’r rheini sydd y tu hwnt i gyllidebau'r rhan fwyaf o ymchwilwyr."

Ychwanegodd Dr Castell: “Rydym wedi dangos bod y bioargraffydd hwn, er ei fod wedi’i adeiladu gan ddefnyddio offeryn adeiladu rhad a syml, wedi’i greu i safon uchel o ran ei beirianneg, a’i fod yn cyflawni'r lefel ofynnol o ran cywirdeb i gynhyrchu deunydd biolegol o wneuthuriad a gwead hynod fân a manwl, a hynny heb effeithio ar ei berfformiad mewn unrhyw ffordd.”

Er bod yr ymchwil yn dal yn ei ddyddiau cynnar, y gobaith yw y gallai’r bioargraffydd LEGO 3D helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o glefydau ymhellach, ac y gallai gyfrannu at greu ac atgyweirio meinwe, ac y gallai wneud triniaeth feddygol penodol ar gyfer bob claf yn bosib, drwy argraffu celloedd sy’n deillio yn unigol o bob claf.

Mae tîm Caerdydd eisoes yn cynnal gwaith ymchwil pellach i greu modelau croen hyfyw drwy'r bioargraffydd y gellir eu defnyddio i brofi triniaethau ar gyfer clefyd y croen a chanser y croen, neu i drawsblannu croen i gymryd lle croen sydd wedi'i ddifrodi.

Wrth siarad am gam nesaf y prosiect, dywedodd Dr Castell: "Fel gydag unrhyw fioargraffu 3D, mae angen gwneud rhagor o astudiaethau i edrych ar ddatblygu bio-inciau o ran cydnawsedd celloedd a hyfywedd. Drwy sicrhau bod ein hargraffydd ar gael yn rhwydd, rydym yn gobeithio y bydd ymchwilwyr yn mabwysiadu'r dechnoleg hon i rannu arbenigedd ac i ddatblygu'r model ymhellach gyda chydrannau LEGO ychwanegol er budd y gymuned ymchwil biofeddygol gyfan."

Dywedodd Matthew Patey OBE, Prif Swyddog Gweithredol British Skin Foundation, yr elusen a ariannodd yr ymchwil: “Rydym yn falch iawn o weld bod y cyllid gan y British Skin Foundation wedi galluogi canlyniadau mor wych gyda'r ymchwil newydd hon. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut caiff yr ymchwil ei defnyddio nawr i wella dyfodol ymchwil biofeddygol.”

Cyhoeddir y papur Development and Evaluation of a Low-Cost LEGO® 3D Bioprinter: From Building-Blocks to Building Blocks of Life yn llawn heddiw yn y cyfnodolyn Advanced Materials Technology.

Rhannu’r stori hon