Ewch i’r prif gynnwys

Penodi ysgolhaig ym maes y Gyfraith i rôl ryngwladol newydd

27 Ionawr 2023

Professor Ambreena Manji
Professor Ambreena Manji

Mae Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei phenodi'n Ddeon Rhyngwladol newydd dros Affrica.

Mae'r Athro Ambreena Manji yn academydd ym maes y gyfraith, o Kenya, sydd wedi bod yn Athro ym maes Cyfraith Tir a Datblygu yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ers 2014. Cyn ymuno â'r brifysgol, roedd yr Athro Manji yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica, sefydliad ymchwil yr Academi Brydeinig sydd â'i bencadlys yn Nairobi. Mae hi wedi cyhoeddi'n eang ar gyfraith a chymdeithas Affrica ac a hithau’n Gyn-Lywydd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU, mae hi nawr yn golygu'r cyfnodolyn blaenllaw ym maes astudiaethau Affricanaidd, African Affairs.  

Mae addysg uwch Affrica yn ffynnu: mae'r sector yn ceisio gwneud yn siŵr ei fod yn cadw ysgolheigion Affricanaidd, yn cefnogi eu dyheadau ymchwil, ac yn arddangos eu rhagoriaeth ryngwladol. Bydd y Deon Rhyngwladol dros Affrica yn rhoi arweiniad academaidd ymroddedig i'n partneriaethau a'n mentrau yn Affrica ac yn meithrin cyfleoedd newydd i ymestyn ein proffil, cyrhaeddiad ac effaith yn y rhanbarth.

Dechreuodd cyfnod yr Athro Manji ym mis Ionawr 2023. Mae ganddi brofiad uniongyrchol hirsefydlog o weithio ac addysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Affrica, ac mae ganddi gysylltiadau personol a phroffesiynol helaeth y mae wedi’u meithrin trwy ei hymchwil a'i chydweithrediadau; fe fydd hyn oll yn dra phwysig o ran ei gwaith yn y brifysgol.

Wrth ymgymryd â'r rôl, dywedodd yr Athro Manji “Rwy’n un o academyddion Affrica sydd ar wasgar ar draws y byd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ymrwymiad Caerdydd i sefydliadau, partneriaethau a chydweithio yn Affrica, yn tyfu ac yn ehangu. Ar adeg pan fo llawer o sefydliadau yn ceisio partneriaethau â phrifysgolion yn Affrica, bydd angen i ni dynnu sylw at ragoriaeth Caerdydd ym maes addysgu ac ymchwil a dangos yn glir bod y brifysgol yn sefydliad teg, hynny er mwyn gwella capasiti a gallu ar y ddwy ochr, gan gynnwys creu cyfleoedd ar gyfer symudeddau rhyngwladol.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yr Athro Warren Barr,“Mae ein cohort rhyngwladol, yn fyfyrwyr a staff, yn hynod bwysig i ni ac rydym yn gweithio'n galed i wneud ein hysgol yn amgylchedd croesawgar i bawb.  Heb os, bydd y ffaith bod yr Athro Manji wedi’i phenodi i’r swydd hon yn annog rhagor o fyfyrwyr a staff o Affrica i ymuno â ni yng Nghaerdydd, sy'n rhywbeth rwy'n gyffrous iawn yn ei gylch. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Ambreena, i atgyfnerthu’r ymwneud rhyngwladol sydd gennym ar waith ar hyn o bryd ac i ddatblygu partneriaethau newydd.”

Rhannu’r stori hon