Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â heintiau sy'n trosglwyddo o anifeiliaid i bobl

24 Ionawr 2023

Stock image of coronavirus

Bydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn gallu rhagweld, canfod a rheoli firysau sy'n trosglwyddo o anifeiliaid i fodau dynol, yn well, diolch i gyllid newydd sylweddol.

Mae cyfanswm o £6.6 miliwn wedi’i ddyfarnu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a phartneriaid eraill i sefydlu Canolfan Hyfforddiant Doethurol yng Nghaerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dan arweiniad yr Athro Joanne Cable o Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol, bydd y Ganolfan newydd yn canolbwyntio ar hyfforddi gwyddonwyr i ddeall y materion amgylcheddol hynny sy’n achosi milheintiau - afiechydon megis Covid-19 ac Ebola - a achosir gan bathogenau (firysau, bacteria a micro-organebau eraill) sy'n trosglwyddo o anifeiliaid i fodau dynol.

Ar hyn o bryd, mae dros 60% o'r heintiau dynol presennol neu rai sy'n dod i'r amlwg yn tarddu o anifeiliaid, gan gostio dros $60 biliwn y flwyddyn i'r economi fyd-eang.

Drwy’r cyllid hwn, bydd cenhedlaeth newydd o wyddonwyr yn cael eu hyfforddi yn y dull 'un iechyd' - fframwaith sy'n croesi ffiniau gwyddonol trwy ddod ag ymchwilwyr ynghyd o feysydd anthropoleg i gyfrifiadureg, ac o iechyd dynol i sŵoleg, er mwyn sicrhau’r ehangder sydd ei angen o ran gwybodaeth i atal pandemigau yn y dyfodol.

Bydd gwyddonwyr yn archwilio sut mae materion megis colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a chamfanteisio ar fywyd gwyllt yn achosi’r duedd o ran y cynnydd mewn clefydau milheintiol. Fe fydd y gwyddonwyr hefyd yn datblygu atebion integredig gan gyfuno meysydd iechyd y cyhoedd, milfeddygaeth a meysydd amgylcheddol i helpu i atal achosion yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Cable: “Mae pandemig Covid-19 yn ein hatgoffa mewn modd difrifol sut y gall pathogen milheintiol ddod â’n byd i stop i bob pwrpas a dymchwel yr economi fyd-eang. Mae atal yn amlwg yn fwy cost-effeithiol na rheoli ond mae'n parhau i fod yn nod anodd ei gyrraedd.

“Nod ein rhaglen Hyfforddiant Doethurol, Un Iechyd ar gyfer Un Amgylchedd: Dull A-Y ar gyfer Mynd i’r Afael â Milheintiau, yw rhoi’r sgiliau a’r arbenigedd i’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i gwrdd â’r her fyd-eang hon.

Bydd y Ganolfan yn agor ym mis Medi 2023 ac yn uno arbenigwyr o feysydd clefydau milheintiol a gwyddorau amgylcheddol o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol y Frenhines Belfast, ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Ychwanegodd yr Athro Cable: “Trwy weithio ar y cyd ac ar draws disgyblaethau, gallwn sicrhau bod ymchwilwyr newydd yn dechrau eu gyrfa ym maes gwyddoniaeth, wedi’u paratoi i fynd i’r afael â’r mater brys hwn. Ein nod wedyn yw rhoi’r sgiliau y byddant eu hangen iddynt er mwyn sicrhau y gallant chwarae rhan ganolog yn y gymdeithas wrth atal a rheoli pandemigau yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon