Ewch i’r prif gynnwys

McAllister yn y ras am rôl uchel gydag UEFA

20 Ionawr 2023

Mae’r Athro Laura McAllister wedi’i henwebu i’w hethol i Bwyllgor Gwaith UEFA.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, bydd cyn-gapten Cymru ac Athro yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn wynebu etholiad yng nghynhadledd UEFA yn Lisbon ar Ebrill 5 2023.

Ym mis Ebrill 2021, collodd McAllister, sydd ar hyn o bryd yn gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yr etholiad i Gyngor FIFA o drwch blewyn (chwe phleidlais), yn dilyn ymgyrch a gafodd gefnogaeth gref gan gynulleidfaoedd chwaraeon a llywodraethu yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon