Ewch i’r prif gynnwys

Mae trais a cham-drin eithafol yn gyffredin mewn ceginau elitaidd ledled y byd, yn ôl astudiaeth

23 Ionawr 2023

Mae dioddefaint yn cael ei ystyried yn angenrheidiol os yw pen-gogyddion elitaidd i fod i gyrraedd eu gwir botensial, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Cynhaliodd academyddion gyfweliadau dienw, a wnaed ar draws y diwydiant bwytai, â 62 o ben-gogyddion sy'n gweithio mewn bwytai â seren Michelin ledled y byd. Mae’r canlyniadau a’r dadansoddiad, a gasglwyd dros gyfnod o chwe blynedd, yn dangos sut mae diwylliant o ddioddef yn ganolog i’r ffordd y mae unigolion yn creu eu hunaniaeth broffesiynol, a hynny er mwyn ennill cydnabyddiaeth a pharch ymhlith eu cymheiriaid.

Soniodd y pen-gogyddion am anafiadau erchyll a pharhaus yn y gweithle:

Fe wnes i dorri fy bawd yn wael iawn. Doeddwn i ddim yn gallu ei atal rhag gwaedu, a gafaelodd [enw] yn fy mraich - rhoddodd e [fy mawd] ar ben y ffwrn a'i losgi hyd nes i’r gwaed geulo. A’r cwbl roeddwn i eisiau ei wneud oedd sgrechian. Ac wedyn dyma fe’n dweud, ‘dyna ni, mae’r gwaedu wedi dod i ben, on'd yw e?

Rhoddon nhw enghreifftiau o wynebu ymosodiadau. Dywedodd un cyfwelai fod uwch-gogydd wedi dal cyllell fara am ei wddf, a siaradodd un arall am y profion neu gemau dygnwch yn y gegin:

Bydden nhw'n dy orfodi i roi dy law mewn blawd, cymysgu wyau ynddo ac yna ei droi’n friwsion bara. . . . a’r gêm oedd gweld pwy allai ddal ei law yn y ffriwr hiraf, a hynny gyda chymysgedd y briwsion bara am eich llaw hyd nes ichi – hyd nes ichi – hyd nes ichi deimlo’r llaw yn llosgi, gan eich gorfodi i’w thynnu allan.

Siaradodd ymchwilwyr â phen-gogyddion ar bob lefel yn y diwydiant – Pen-gogyddion sy’n berchen ar y busnes, Pen-gogyddion Gweithredol, Prif Ben-Gogyddion, Pen-gogyddion Cynorthwyol a Stagiaires – neu Ben-Gogyddion o dan Hyfforddiant. Yn ogystal â’r DU, ymwelwyd â cheginau yn Ffrainc, yr Eidal, y Swistir, yr Almaen, Gwlad Belg, Denmarc, Tsieina, Awstralia, Singapôr ac UDA.

Mae’r canlyniadau hefyd yn datgelu’r niwed corfforol a meddyliol y bydd yr amodau gwaith hyn hwyrach yn ei gael:

Mae llawer iawn o straen yn y gweithle . . . Os byddwch chi’n gwneud camgymeriadau, bydd bwyd yn cael ei daflu yn eich wyneb. . . Felly mae'r corff yn cymryd yn ganiataol ei fod yn mynd i ryfel. Felly cyn imi ddechrau gweithio, byddwn i'n chwydu, byddai gen i ddolur rhydd ac wedyn byddwn i’n mynd i'r gwaith a gwneud shifft o 19-20 awr.

Ond mae’r tîm academaidd, sy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, yn dweud bod y canfyddiadau’n dangos bod yr achosion o drais a cham-drin yn cael eu hystyried yn ffordd o greu statws yn y diwydiant, gan ddangos ethos gwaith a chymeriad yr unigolyn: “Os bydd pobl yn gweld bwytai penodol ar eich CV maen nhw'n meddwl: 'wow, roedd wedi para yno am flwyddyn?! Wow. Mae mor galed â’r dur. Mae’n gallu dioddef ei gosb cryn dipyn. Galla i ei weithio'n galetach.”

Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Robin Burrow: “Yr hyn a welson ni yn ystod ein hymchwil oedd bod y dioddefaint eithafol hwn wedi cael effaith a oedd yn uno’r bobl a oedd yn gweithio’n unol â’r amodau hyn. Nid oedd gan ben-gogyddion nad oedd eisiau dioddef fawr o hawl i fod yn aelodau go iawn o'r gymuned goginiol. Doedden nhw ddim yn ben-gogyddion o’r iawn ryw.”

“Y pwynt a gafodd ei ailadrodd dro ar ôl tro ymhlith y rheini a gyfwelwyd gennym oedd na fyddech chi ar eich ennill o fod ag ethos neu eich bod yn gweithio mewn gweithle sy’n glyd neu’n ddiogel lle nad oes pwysau mawr arnoch chi. Hynny yw, fyddech chi ddim yn llwyddo i fod yn ben-gogydd gwych drwy ymlacio neu weithio mewn lleoedd nad oedd yn achosi trafferth. Yn hytrach, er mwyn llwyddo go iawn, dylai pen-gogydd fod yn agored i bob math o galedi dan haul; dyma, yn ôl un pen-gogydd, yw’r llwybr i ffynnu yn y byd.”

Dyma a ddywedodd y cyd-awdur Dr Rebecca Scott: “Mae ein hymchwil yn dangos sut roedd y gallu i ddioddef dioddefaint yn gysylltiedig â syniadau o gyflogadwyedd, cymeriad a gwerth. Ac ar ben hyn, roedd y ffordd y dygymodd y pen-gogyddion dioddefus â’r sefyllfa’n tanlinellu hunaniaethau ar sail grŵp, yn eu cymell i gydnabod ei gilydd ac yn eu plethu ynghyd yn garfanau tynn. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg o dipyn i beth yw’r dioddefaint sy’n ganolog i’r ffordd mae’r pen-gogyddion yn deall pwy ydyn nhw ar sail yr unigolyn a’r grŵp cymdeithasol ehangach.”

Ychwanegodd y cyd-awdur, yr Athro David Courpasson: “Gall dioddef drawsnewid y person dan sylw, ond ar ben hynny mae’n esbonio pwy yw ef neu hi.”

Cyhoeddwyd yr ymchwil, Bloody suffering and durability: How chefs forge embodied identities in elite kitchens, yn y cyfnodolyn Human Relations.

Rhannu’r stori hon