Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn arwain ar gais llwyddiannus sef Gwobr Datblygu’r GW4 ar gyfer Meithrin Cymunedau

18 Ionawr 2023

The progressive flag, including the intersex community
The progressive flag, including the intersex community

Mae staff Gwasanaethau Academaidd a Phroffesiynol, ynghyd â myfyrwyr o’r pedair prifysgol GW4, wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian o Wobrau Datblygu’r GW4 ar gyfer Meithrin Cymunedau i ddatblygu cymuned ymarfer ym maes STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth.)

Mae Cynghrair y GW4 wedi ariannu tri phrosiect yn rhan o'r Gwobrau newydd; mae'r cynllun ariannu parhaus hwn yn rhoi dyfarniadau o hyd at £5K i gefnogi cydweithrediadau ymchwil ac arloesi newydd neu bresennol ar draws prifysgolion y GW4 sef Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg drwy ariannu gweithgareddau neu adnoddau unigol.

Bydd y prosiect llwyddiannus, a arweinir gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn defnyddio’r cyllid i helpu i greu cymuned ymarfer GW4 EDI ym maes STEMM (canolfan Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant GW4) gyda’r nod o gyflawni newid diwylliannol ar draws sefydliadau GW4 yn y maes hwn. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2023 gyda chynhadledd 'Ailddiffinio'r status quo yn y byd academaidd' a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.

MeddaiCosimo Inserra, Uwch Ddarlithydd a Chadeirydd EDI yr Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae llawer ohonom sy'n ymwneud â'r gymuned hon wedi trefnu mentrau o'r blaen. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau o ran y dull un adran a sefydliad oherwydd gallant fod heb y pŵer i newid diwylliant cyffredinol sefydliadau. Mae degau o adrannau STEMM yn rhan o’r GW4 ac mae’n llwyfan perffaith i greu’r hwb STEMM EDI cyntaf yn y DU, cymuned ymarfer sy’n datblygu methodolegau cydlynol ac arferion da i gefnogi sefydliadau academaidd eraill i feithrin amgylcheddau cynhwysol”.

Mae Cyllid Meithrin Cymunedau’r GW4 yn cefnogi meithrin cymunedau GW4 newydd a datblygu'r syniadau cryfaf sy'n dod i'r amlwg o'n cymunedau presennol, ac mae'n agored i unrhyw faes academaidd. Mae Cynghrair y GW4 wedi buddsoddi dros £3.1 miliwn mewn 112 o gymunedau ymchwil cydweithredol, sydd wedi cynhyrchu £62.8 miliwn mewn incwm ymchwil.

I gael gwybod rhagor am Wobrau Datblygu’r GW4 a'r Gronfa Sbarduno ewch i'rwefan.

Rhannu’r stori hon