Ewch i’r prif gynnwys

Cedwir Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil ar ôl adolygiad 12 mlynedd

16 Ionawr 2023

HR excellence logo

Rydym wedi cadw ein Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil yn dilyn adolygiad allanol llwyddiannus o sut rydym yn cefnogi ein staff ymchwil a'u datblygiad.

Rydym yn un o ddwy brifysgol yn y DU i gadw'r wobr wedi eu hadolygiad deuddeg mlynedd.

Ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf i gael y wobr yn 2010. Mae'n fecanwaith pwysig ar gyfer gweithredu egwyddorion y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr. Wrth gadw eu gwobrau, mae sefydliadau yn dangos eu hymrwymiad hirdymor i ddatblygiad gyrfaol ymchwilwyr.

Mae’r wobr yn cydnabod bod sefydliadau wedi cwblhau dadansoddiad o’r bylchau yn eu polisïau a’u hymarfer presennol yn ôl y Concordat, wedi datblygu cynllun gweithredu i’w roi ar waith ac wedi ystyried barnau’r ymchwilwyr.

Fe wnaethom gynnydd sylweddol yn erbyn ein cynllun gweithredu a:

  • chodi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad am ein hymrwymiadau a'n cyfrifoldebau o dan y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr.
  • cyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol estynedig ac amrywiol i ymchwilwyr
  • cryfhau llais a chynrychiolaeth ymchwilwyr wrth lunio polisïau a strategaeth y brifysgol
  • gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ymhlith ymchwilwyr, gan gynnwys cefnogi lles ac iechyd meddwl, er mwyn galluogi ein holl staff ymchwil i ffynnu.

Dywedodd yr Athro Karin Wahl Jorgensen, Deon yr Amgylchedd Ymchwil a Diwylliant, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cadw ein gwobr ar ôl deuddeg mlynedd. Mae ein hymrwymiad i'r Concordat yn rhan allweddol o'r gwaith rydym yn ei wneud i wella ein diwylliant ymchwil ac mae cynnwys ein hymchwilwyr yn hyn yn hanfodol."

"Mae'n dyst mawr i'r tîm cyfan sy'n gweithio mor galed i ddatblygu a gweithredu ein cynlluniau gweithredu ein bod wedi cadw'r wobr heb unrhyw welliannau”.

Ein 6 maes o flaenoriaeth ar gyfer mentrau penodol i wella profiad staff ymchwil dros y tair blynedd nesaf yw:

  • ymwybyddiaeth ac ymgysylltu
  • datblygu polisïau
  • sicrwydd o ran swyddi
  • cydnabyddiaeth, gwobr a dyrchafiad
  • hyrwyddo datblygiad proffesiynol
  • gyrfaoedd amrywiol

Mae ein hymrwymiad i'r Wobr, y Concordat a'n cynllun gweithredu yn rhan o'n rhaglen Thrive i wella diwylliant ymchwil y brifysgol.

Rhannu’r stori hon