Ewch i’r prif gynnwys

Dyddio’r Meirw

16 Ionawr 2023

Potiau mymïaid wedi'u pentyrru, pob un yn cynnwys ibis wedi’i fymïo. De Claddgell yr Ibis, Gogledd Saqqara.
Potiau mymïaid wedi'u pentyrru, pob un yn cynnwys ibis wedi’i fymïo. De Claddgell yr Ibis, Gogledd Saqqara. (Llun: P.T. Nicholson, wedi'i atgynhyrchu trwy garedigrwydd Cymdeithas Archwilio'r Aifft)

Chwyldroi cronoleg a chyd-destun yn Necropolis Anifeiliaid Cysegredig Saqqara

Er iddynt ennyn cryn ddiddordeb ers dros ddwy fileniwm, prin o hyd yw ein gwybodaeth am weithrediad cyltiau anifeiliaid yr hen Aifft, yn anad dim oherwydd nad yw'r claddgelloedd anifeiliaid amrywiol, eu mymïaid a gwrthrychau eraill wedi'u harchwilio yn eu cyfanrwydd o'r blaen.

Dan arweiniad yr Athro Archaeoleg Paul Nicholson, nod Dyddio’r Meirw yw darparu cronoleg gynhwysfawr i'r cyltiau anifeiliaid gyda ffocws ar safle allweddol Saqqara, gan drawsnewid ein dealltwriaeth a’u datblygiad yn  ogystal â darparu methodoleg y gellir ei ddefnyddio ar gyfer mynwentydd anifeiliaid eraill.

Yn wahanol i safleoedd eraill sy'n canolbwyntio ar gwlt duwdod anifail sengl, mae Saqqara yn nodedig am ei gladdgelloedd niferus wedi'u llenwi â theirw, buchod, ibisiaid, hebogiaid, babwniaid, cŵn a chathod oll wedi’u mymïo, a roddwyd o dan y ddaear yn eu miloedd. Mae ffynonellau testunol yn awgrymu bod mannau claddu ar gyfer hyd yn oed mwy o rywogaethau yn dal heb eu darganfod eto.

Fel arfer, dywedir mai cyltiau pwysicaf Saqqara - a'u hanifeiliaid addunedol wedi’u mymïo - yw’r rheiny o'r Cyfnod Hwyr (747-332 CC), gan ddirywio yn fuan ar ôl diwedd y cyfnod Ptolemaidd (332-30 CC) ac yn fwy byth o'r cyfnod Rhufeinig (30 CC ymlaen).Fodd bynnag, mae ymchwil dan arweiniad yr Athro Nicholson yn awgrymu y gallai'r darlun confensiynol hwn fod braidd yn gamarweiniol mewn gwirionedd, gyda chyltiau'n ffynnu'n ddiweddarach, ac yn para'n hirach o lawer na'r hyn a oedd yn cael ei gredu o'r blaen.

Nod Dyddio’r Meirw yw sefydlu'r gronoleg hon i greu darlun cliriach ar sail tystiolaeth trwy integreiddio'r dystiolaeth gronolegol o'r ardal a elwir heddiw yn Necropolis yr Anifeiliaid Cysegredig, ynghyd â dyddio radiocarbon targedig a dadansoddiad ystadegol i ddatblygu'r gronoleg fanwl a dibynadwy gyntaf ar gyfer y cyltiau anifeiliaid mewn un prosiect.

Gan adeiladu ar etifeddiaeth yr Athro WB Emery a ailddarganfu Necropolis yr Anifeiliaid Cysegredig yn y 1960au a chynnydd olynol o dan yr Athro GT Martin a HS  Smith ynghyd â Dr Susan Davies, mae Dyddio’r Meirw yn bwriadu adeiladu cronoleg ar gyfer y necropolis cyfan yn hytrach na chladdgelloedd unigol, gan ddefnyddio ymchwil bellach yn Saqqara gan yr Athro Nicholson a'i ragflaenwyr.

Yn ogystal â defnyddio ffynonellau ysgrifenedig presennol, bydd y prosiect yn datblygu cymariaethau mydryddol jariau crochenwaith a ddefnyddir fel eirch ar gyfer ibisiaid a hebogiaid wedi’u mymïo, gan nodi nodweddion tebyg er mwyn sefydlu eu cronoleg gymharol ymhellach trwy ymchwil a ddechreuwyd gan y diweddar Dr NRJ Fieller a'r Athro Nicholson.

Bydd ddefnyddio dull radiocarbon i ddyddio sbesimenau o gladdgelloedd Saqqara sydd wedi'u lleoli mewn amgueddfeydd y tu allan i'r Aifft yn egluro’r dyddio ymhellach, ynghyd â'r ffynonellau stratigraffig, arysgrifol a mydryddol.

Gan dynnu ar 30 mlynedd o brofiad archeolegol yn Saqqara, dywedodd yr Athro Nicholson:

'Mae ein prosiect yn mynd ati i sefydlu cronoleg ddibynadwy ar sail tystiolaeth o Necropolis yr Anifeiliaid Cysegredig yn Saqqara i wella ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y claddgelloedd a'u cyltiau ac i greu dealltwriaeth fwy cyflawn o'u rôl o fewn y gymdeithas hynafol ddiddorol, gymhleth hon.'

Wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, mae Dyddio’r Meirw: Cronoleg a Chyd-destun yn necropolis anifeiliaid cysegredig Saqqara yn cael ei arwain gan yr Athro Paul Nicholson a'r cydymaith ymchwil Dr Henry Bishop-Wright sy'n ymuno â'r prosiect o Adran y Dwyrain Canol yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Yn ddiweddar, cwblhaodd yr Athro Paul Nicholson brosiect Views of an Ancient Land gyda Dr Steve Mills. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys The catacombs of Anubis at North Saqqara: an archaeological perspective.

Rhannu’r stori hon