Ewch i’r prif gynnwys

Duw’r Cyfoeth Tsieineaidd yn y Bathdy Brenhinol

13 Ionawr 2023

Mae Wei Shao, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Tsieineaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wedi cwblhau prosiect ochr yn ochr â’r Bathdy Brenhinol i greu bar mintys bathol aur yn cynnwys Guan Gong, Duw’r Cyfoeth Tsieineaidd.

Cydweithiodd Wei â thîm y Bathdy Brenhinol, gan weithio ar ddyluniad y bwliwn. Yn ogystal, darparodd wasanaeth ymgynghori i'r tîm marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gan gynorthwyo gyda deunyddiau hyrwyddo a fideos y bar bwliwn, yn ogystal â llenyddiaeth yn ymwneud â chefndir diwylliannol a diwylliant rhoi y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Bu’r prosiect yn rhedeg dros gyfnod o chwe mis a lansiwyd y bar bwliwn aur yn cynnwys y Duw Tsieineaidd yn llwyddiannus ar 13 Rhagfyr 2022.

Mae bar bwliwn aur Guan Gong yn elfen hanfodol o ystod cynnyrch newydd y Bathdy Brenhinol ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd sydd i ddod. Mae'r rhain hefyd yn cynnwys darn arian bathol gyda llun cwningen fel arwydd Sidydd 2023.

Dywedodd Wei: “Rwy’ wedi mwynhau gweithio gyda’r Bathdy Brenhinol yn fawr i gyflwyno’r bar bwliwn aur arbennig hwn ar gyfer y Gymuned Tsieineaidd, sy’n cynnwys Duw’r Cyfoeth Tsieineaidd, Guan Gong. Mae lefel y manylder ar y bar metel gwerthfawr hwn yn eithriadol ac yn dyst i’r tîm o grefftwyr yn y Bathdy Brenhinol.

“Wrth i ni agosáu at y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, mae’n siŵr y bydd y bar aur sy’n darlunio Guan Gong yn un poblogaidd ymhlith y gymuned Tsieineaidd a gobeithio y bydd eraill yn edmygu’r dyluniad cymaint â mi.”

Rhannu’r stori hon