Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd ymhlith aelodau cyntaf Academi Ifanc y DU

16 Ionawr 2023

Mae Dr Aditee Mitra, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, wedi cael ei ddewis i fod yn un o aelodau cyntaf Academi Ifanc newydd Prydain.

Mae Academi Ifanc y DU yn rhwydwaith o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sydd bob un wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'w maes, gan fynd y tu hwnt i hynny i gael effaith y tu allan i'w prif feysydd gwaith.

Fel rhan o'r garfan gyntaf o 67 aelod, a gyhoeddwyd gan Academïau Cenedlaethol y DU ac Iwerddon, bydd gan Aditee gyfle i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a llunio strategaeth a ffocws y sefydliad newydd hwn.

Bydd themâu ac amcanion strategol yn cael eu penderfynu gan aelodau ar sail meysydd sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd trafodaethau ar eu blaenoriaethau allweddol yn dechrau mewn digwyddiad sefydlu a gynhaliwyd yn y Gymdeithas Frenhinol ym mis Ionawr 2023 ac yn cael ei gwblhau dros y flwyddyn i ddod. Mae'r aelodau eisoes wedi mynegi diddordeb mewn meysydd o newid hinsawdd a chynaliadwyedd i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd y cyhoedd, addysg a sgiliau, a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Sefydlwyd Academi Ifanc y DU fel cydweithrediad rhyngddisgyblaethol gydag academïau cenedlaethol o fri: Academi'r Gwyddorau Meddygol, Yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Academi Beirianneg Frenhinol, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a'r Gymdeithas Frenhinol. Mae'n ymuno â menter fyd-eang Academïau Ifanc, gydag Academi Ifanc y DU yn dod yn 50fed i ymuno â mudiad yr Academi Ifanc.

Derbyniodd yr alwad am aelodau i Academi Ifanc y DU ym mis Mehefin 2022 dros 400 o ymgeiswyr o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Ffisegol, Peirianneg a Chyfrifiadureg, y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a Busnes, Gwasanaeth Cyhoeddus a Chyfathrebu.

Dechreuodd Aditee y swydd yn swyddogol ar 1 Ionawr 2023, a bydd aelodaeth yn rhedeg am 5 mlynedd.

Rhannu’r stori hon