Ewch i’r prif gynnwys

Graddau archaeoleg yn derbyn achrediad CIfA

9 Ionawr 2023

Graddau archeoleg israddedig yng Nghaerdydd yw'r diweddaraf i gael eu hachredu'n ffurfiol fel rhai sy'n darparu sgiliau sy'n berthnasol i yrfa yn yr amgylchedd hanesyddol.

Mae graddau BA a BSc Archaeoleg bellach wedi’u hachredu gan Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIfA) a University Archaeology UK (UAUK).

CIfA yw’r prif gorff proffesiynol sy’n cynrychioli archeolegwyr sy’n gweithio yn y DU a thramor. Mae'r sefydliad yn hyrwyddo safonau proffesiynol uchel a moeseg gref mewn ymarfer archeolegol, er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i gymdeithas gan archaeolegwyr.

Yn ymarferol, ar ôl graddio o radd/llwybr achrededig mae graddedigion yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gradd PCIfA (Ymarferydd), un o dair gradd aelod achrededig proffesiynol a aseswyd ar gymhwysedd technegol ac addasrwydd moesegol amlwg.

Mae'r achrediad yn dilyn canmlwyddiant Archaeoleg yn y Brifysgol yn 2020/2021.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Bioarchaeoleg Jacqui Mulville a Phennaeth Archaeoleg a Chadwraeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd:

'Ar ôl dathlu ein canmlwyddiant yn ddiweddar, mae ennill achrediad cIFA ac UAUK ar gyfer ein graddau BA a BSc yn cadarnhau bod ein cynlluniau yn rhoi sgiliau allweddol a hyfforddiant i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa yn yr amgylchedd hanesyddol. Yng Nghaerdydd, mae sgiliau ymarferol a phroffesiynol yn ganolog i’n haddysgu a arweinir gan ymchwil ac mae ein myfyrwyr yn cael profiadau lleoliad helaeth yn ogystal ag addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y labordy. Mae'r bartneriaeth hon gyda phrif gorff proffesiynol y DU yn cydnabod bod ein graddedigion wedi'u harfogi i ymgysylltu â dyfodol y gorffennol.'   

Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig BA a BSc Archaeoleg ar lefel israddedig ynghyd ag amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig, gan gynnwys MA Archaeoleg ac MSc Gwyddor Archaeolegol a chyfleoedd PhD.

Rhannu’r stori hon