Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr newydd ar ddatblygu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus

5 Ionawr 2023

A book cover, blue with graphics of fish on it with the text, Developing Public Service Leaders.

Athrawon yn Ysgol Busnes Caerdydd yw cyd-awduron llyfr newydd o’r enw ‘Developing Public Service Leaders: Elite orchestration, change agency, leaderism, and neoliberalization.’

Mae’r llyfr yn astudio pam a sut mae llywodraethau a chyrff cynrychioliadol sy’n cefnogi staff sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus wedi ymyrryd yn helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf er mwyn datblygu uwch aelodau o’r staff i fod yn arweinwyr.

Ac yntau wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen, mae’r llyfr yn un gan academyddion sy’n gweithio mewn prifysgolion ledled y DU. Y cyd-awduron yn Ysgol Busnes Caerdydd yw Mike Wallace, sy’n Athro Rheolaeth Gyhoeddus, Michael Read, sy’n Athro Dadansoddi Sefydliadol, a Jonathan Morris, sydd hefyd yn Athro Dadansoddi Sefydliadol.

Y llyfr yw’r cyntaf i ymchwilio’n feirniadol i ymyriadau datblygu arweinwyr ar raddfa fawr er mwyn gwella capasiti i arwain gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n tynnu sylw at ganfyddiadau prosiect ymchwil ansoddol mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae hefyd yn cymharu ymyriadau datblygu arweinwyr helaeth ym meysydd addysg a gofal iechyd yn Unol Daleithiau America, Canada, Awstralia, Seland Newydd a Lloegr.

Dywed Mike Wallace, Athro Rheolaeth Gyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae’r canfyddiadau allweddol sy’n cael sylw yn y llyfr fel a ganlyn:

  • Ceisiodd gwleidyddion Llywodraeth y DU gynnal parodrwydd uwch aelodau o staff sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i gydweithredu, am fod y llywodraeth yn dibynnu arnynt i roi ei diwygiadau marchnadeiddio rheoledig ar waith.
  • Cafodd buddsoddiad llywodraethol mewn ymyriadau datblygu arweinwyr drwy’r wlad ei gyfeirio at ymddiwylliannu uwch aelodau o staff sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn arweinwyr sy’n ymrwymo i fod ar flaen y gad o ran gweithredu polisïau diwygiedig ar ran y llywodraeth.
  • Er hynny, roedd y ddarpariaeth hon yn weddol aneffeithiol ar gyfer ymddiwylliannu. Methodd â throshaenu’r diwylliant gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus presennol ymhlith y rhai a gymerodd ran, ac eto, roedd y rhai a gymerodd ran yn gwerthfawrogi’r cofnod o fod wedi gwneud hynny er mwyn eu helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd unigol, sy’n cyfrannu at y gwaith o’u proffesiynoli’n arweinwyr.”

Dyma ddeunydd darllen cynhwysfawr a hanfodol i ymchwilwyr, llunwyr polisïau neu fyfyrwyr sydd am feithrin dealltwriaeth fanwl o faes datblygu arweinwyr yn bolisi, yn ymarfer ac yn sefydliad sy’n dod i’r amlwg.

Mae digwyddiad i gyflwyno’r llyfr yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 25 Ionawr 2023 am 2pm yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'n ddigwyddiad ar y cyd i ddathlu a thrafod y llyfr hwn, gan gynnwys llyfr arall gan staff Ysgol Busnes Caerdydd o’r enw ‘Contemporary Employers' Organizations’, a olygwyd gan Leon Gooberman a Marco Hauptmeier ac a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2022.

Mae ‘Developing Public Service Leaders: Elite orchestration, change agency, leaderism, and neoliberalization’ ar gael gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Cyd-awduron: Mike Wallace, Michael Reed, Dermot O'Reilly, Michael Tomlinson, Jonathan Morris, Rosemary Deem

ISBN: 978-0-19-955210-8

Rhannu’r stori hon