Ewch i’r prif gynnwys

Fideo: Beth sy'n digwydd yng Nghymru a'r Alban?

3 Ionawr 2023

Daeth Podlediad Hiraeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd at ei gilydd i ddod â’r newyddiadurwyr Gerry Hassan a Will Hayward i ganol dinas Caerdydd ar gyfer trafodaeth fyw ar yr heriau sy’n wynebu mudiadau annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban.

Arweiniodd Jess Blair, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, y drafodaeth ar bynciau gan gynnwys y cwestiynau allweddol y mae angen i ymgyrchwyr annibyniaeth eu hateb, a'r rhagolygon ar gyfer diwygio'r DG.

Cafwyd cyfraniad gan yr Athro Richard Wyn Jones ar gyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DG, gan gynnwys ymateb cychwynnol i adroddiad cyfansoddiadol Gordon Brown ar gyfer y blaid Lafur. Mae hwn ar gael ar Spotify yma.

Mae fideo o sgwrs Gerry Hassan a Will Hayward ar gael isod.

Rhannu’r stori hon