Ewch i’r prif gynnwys

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cyflymu’r broses o ddatblygu rhwydweithiau 6G y DU

3 Ionawr 2023

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o nifer o bartneriaid mewn consortiwm sydd wedi cael £12 miliwn o gyllid i ddatblygu a diwydiannu technolegau ac atebion ar gyfer rhwydweithiau symudol 6G y dyfodol.

Mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) yn yr Ysgol Peirianneg yn rhan o brosiect gwerth £12 miliwn, 'Realising Enabling Architectures and Solutions for Open Networks' (REASON), sy'n anelu at ehangu gwasanaethau 6G ledled y wlad a gwneud rhwydweithiau telathrebu yn y dyfodol yn fwy cynaliadwy a diogel.

Bydd Prosiect REASON, dan arweiniad Prifysgol Bryste, yn dod â phartneriaid ynghyd sy'n cynrychioli Ymchwil a Datblygu ym maes cyfan telathrebu, gan gynnwys prifysgolion blaenllaw'r DU, gwerthwyr offer rhwydweithiau symudol mawr gan gynnwys Ericsson, Samsung a Nokia, darparwyr gwasanaeth a chynnwys, a busnesau bach a chanolig arloesol.

Mae tîm y Lled-ddargludyddion yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Bangor ac Abertawe, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ac Integrated Compound Semiconductors Ltd.

Bydd y tîm ymchwil o'r Ysgol Peirianneg, gan gynnwys Dr Jonny Lees, yr Athro Khaled Elgaid, a Dr Roberto Quaglia, Dr Abdalla Eblabla a'r Athro Paul Tasker, yn datblygu technoleg newydd ym maes lled-ddargludyddion a chylchedau microdon, ynghyd â dulliau nodweddu a modelu i leihau'r defnydd o bŵer a chynyddu perfformiad systemau cyfathrebu 6G yn y dyfodol.

Bydd y timau prosiect ehangach yn datblygu cysyniadau newydd i gefnogi’r broses o ddwysáu rhwydweithiau a thechnolegau clyfar er mwyn i bobl allu cyrchu rhwydweithiau aml-dechnoleg, tynnu gwybodaeth synhwyro mewn amser real a chefnogi’r defnydd o 6G. Ymhlith y rhain bydd cydrannau newydd ar gyfer lled-ddargludyddion a ddyluniwyd i wneud y gorau o berfformiad systemau datrysiadau newydd ym maes trosglwyddo Amledd Radio (RF) ac Optegol.

Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y DU (DCMS) sy’n ariannu prosiect REASON. Sicrhawyd y cyllid gan Her Ymchwil Rhwydweithiau Agored y Dyfodol, sy’n rhan o strategaeth Llywodraeth y DU i arallgyfeirio cadwyni cyflenwi telathrebu'r DU.

Mewn erthygl gan CSC, dyma a ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros DCMS, Michelle Donelan: “Mae'r dechnoleg sy'n pweru ein rhwydweithiau ffôn a rhyngrwyd yn datblygu'n gyflym a chan fod 6G ar y gorwel, mae'n rhaid inni barhau ar flaen y gad. Yn sgîl y buddsoddiad hwn gan y llywodraeth, bydd prifysgolion gorau'r DU yn ymuno â byd diwydiant i ddatblygu seilwaith rhwydweithiau newydd, creu swyddi sgiliau uchel fydd yn arbrofi diogelwch y dechnoleg ddiweddaraf yn maes telathrebu, ac yn sicrhau bod ein cynllun ar gyfer marchnad fwy amrywiol ac arloesol ym myd offer telathrebu yn cael ei gynnal yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon