Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd yn ennill Gwobr Rhagoriaeth AICPA a CIMA

16 Rhagfyr 2022

A purple certicate showing that Cardiff University has won a CIMA global excellence award

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill gwobr rhagoriaeth fyd-eang yn nhrydydd rhifyn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas y Cyfrifwyr Proffesiynol Ardystiedig Rhyngwladol (AICPA) a Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheolaeth (CIMA) 2022.

Mae'r wobr hon yn cydnabod sefydliadau partner academaidd sy'n cyflawni cyfradd basio ar gyfer arholiadau CGMA CIMA uwchlaw'r cyfartaledd byd-eang yn yr un flwyddyn galendr. Cyflawnodd Prifysgol Caerdydd y bedwaredd gyfradd lwyddo uchaf yn arholiadau CIMA cyffredinol.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth blynyddol yn cydnabod sefydliadau addysgol ac unigolion ar draws y byd sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi ymgeiswyr ar eu taith tuag at ddod yn Gyfrifwyr Rheolaeth Fyd-eang Siartredig (deiliaid dynodiad CGMA) ac yn siapio dyfodol y proffesiwn cyfrifeg a chyllid byd-eang.

Dywedodd Sue Bartlett, Pennaeth Cyfrifo a Chyllid ac Athro Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth CIMA ac rydym yn falch o gyflawniadau ein myfyrwyr. Mae gennym berthynas agos â CIMA ac mae’n amlwg bod ein myfyrwyr yn elwa o hyn. Mae CIMA yn ymwneud â chyflwyno ein holl raglenni Cyfrifeg a Chyllid, o lefel israddedig Blwyddyn 1 i lefel Meistr, trwy roi cyflwyniadau, gweithdai a siaradwyr gwadd. Yr ymgysylltiad hwn, ynghyd â’r addysgu rhagorol gan ein cyfadran Cyfrifeg Rheolaeth, sy’n denu rhai o’n myfyrwyr gorau i’r cymhwyster CIMA ar ôl graddio.”

Yr Athro Sue Bartlett Head of Accounting and Finance, Reader in Accounting and Finance

Dywedodd Andrew Harding, FCMA, CGMA, Prif Weithredwr – Cyfrifeg Rheolaeth Cymdeithas y Cyfrifwyr Proffesiynol Ardystiedig Rhyngwladol, yn cynrychioli AICPA a CIMA:

“Rydym yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau ein partneriaid academaidd, darparwyr hyfforddiant a thalentau cyfrifeg ifanc am y drydedd flwyddyn yn olynol. Dylai ein henillwyr gwobrau ac enwebeion fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd i hybu ein hymdrechion i dyfu, meithrin a grymuso arweinwyr cyfrifeg, cyllid a busnes ledled y byd yn y dyfodol. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch ar eich llwyddiant, ac am gael y gydnabyddiaeth yr ydych yn ei haeddu.”

Mae rhestr lawn o'r enillwyr ar gael ar wefan CIMA.

Rhannu’r stori hon